Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Mae gan Ddoc Penfro ddau beth y gall ymfalchïo ynddynt sy’n gysylltiedig â hedfan, er bod y ddau yn bur wahanol i’w gilydd, sef cychod hedfan a’r Millennium Falcon!

Stori
Mae’n debyg nad porthladd fferi prysur a hen iard longau fyddai’r lleoedd cyntaf y byddech yn meddwl ymweld â nhw pe bai gennych ddiddordeb yn hanes a threftadaeth hedfan. Ond mae gan Ddoc Penfro ddau gysylltiad pwysig â hedfan, er bod cyd-destun y naill yn wahanol iawn i’r llall.

Mae’r ddau beth yn gysylltiedig â’r un man, sef y siediau anferth a godwyd yn y lle cyntaf i ddal cychod hedfan y Llu Awyr Brenhinol a gedwid yn Noc Penfro o 1930 ymlaen. Tyfodd ac ehangodd canolfan yr awyrlu gydol y degawd. Erbyn 1943 roedd 99 o gychod hedfan Sunderland a Catalina yn cael eu cadw yn y siediau hyn, a chwaraeodd y rheini ran hanfodol ym mrwydr yr Atlantig. Yn wir, yn ystod y cyfnod hwn, yn Noc Penfro yr oedd y ganolfan cychod hedfan fwyaf yn y byd.

Ym 1979 chwaraeodd yr un siediau rôl allweddol mewn hediad o fath tra gwahanol, gan mai yma yr adeiladwyd llong ofod enwocaf o bosibl y gyfres Star Wars, sef Millennium Falcon Han Solo. Mae honno’n nodedig am iddi gwblhau’r Kessel Run mewn llai na 12 parsec ond roedd ei dechreuadau yn llawer mwy di-nod, mewn sied fawr mewn tref borthladd yng ngorllewin Cymru! Yn y ffilm gyntaf yn y gyfres – y gyntaf o ran dyddiad cynhyrchu –
model ffug bychan a ddefnyddiwyd o’r Millennium Falcon, ond erbyn iddynt ddechrau ffilmio’r ail, The Empire Strikes Back, roeddid wedi penderfynu creu model maint llawn. Ac oherwydd maint yr hen siediau cychod hedfan ac arbenigedd y cwmni peirianneg lleol Marcon Fabrications wrth gynhyrchu a chyflenwi eitemau metel mawr i’r cyfleusterau olew yn Aberdaugleddau, nid nepell i ffwrdd, penderfynwyd mai Doc Penfro oedd y lle perffaith i
adeiladu’r ‘hebog’ enwog.

Yn ffodus i’r sawl sy’n ymweld â Doc Penfro, mae yna olion gweladwy o rôl y dref yn yr hanes. Mae sied anferth y Western Sunderland – lle y cedwid y cychod hedfan a lle’r adeiladwyd y Millennium Falcon – yn dal i sefyll ar Admiralty Way, y ffordd yr aiff y rhan fwyaf o geir a bysus hyd-ddi wrth fynd i gyfeiriad y fferi i Ros Láir (Rosslare). Gellir gweld y sied hefyd, ar ochr ddeheuol yr aber, o ddec y fferi ei hun.

Ac i’r rheini sydd am ddysgu ychydig mwy am hanes Doc Penfro yn yr Ail Ryfel Byd ac wedyn yn Star Wars, ceir gwybodaeth bellach yng Nghanolfan Treftadaeth Doc Penfro. Cartref y ganolfan yw hen gapel trawiadol y dociau ar Meyrick Owen Way, sydd unwaith eto’n gyfleus wrth i chi deithio i gyfeiriad y fferi. Ymddiriedolaeth Sunderland sy’n cynnal y ganolfan, ac mae’n cynnwys arddangosfa fawr sy’n edrych ar rôl y cychod hedfan yn yr Ail Ryfel Byd. Ac, ar gyfer ffans Star Wars, ceir arddangosfa arall sy’n adlewyrchu rhan Doc Penfro mewn math tra gwahanol o hedfan; math ffuglennol, mewn galaeth ymhell bell i ffwrdd…

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw