Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Bu Doc Penfro yn set ffilm a ddefnyddiwyd mewn sawl un o ffilmiau sinema cynnar mwyaf llwyddiannus Prydain, diolch i'r arloeswr brwdfrydig ym maes ffilmiau, William Haggar a'i deulu.

Stori
Roedd William Haggar (1851-1925) yn ddyn sioe teithiol gyda theulu mawr a gweledigaeth. Ar ôl iddo briodi Sarah Walton ym 1870, sefydlodd y pâr ifanc gwmni theatr teithiol, gan deithio'n helaeth ar draws Cymru a Lloegr. Bu fyw wyth o'u plant nes oeddent yn oedolion, ac arferent berfformio yng nghynyrchiadau theatr eu rhieni. Ym 1898, cafodd William Haggar daflunydd, a bu'n dangos ffilmiau cynnar ar draws ffeiri cymoedd de Cymru.

Er y 1890au, teithiodd teulu Haggar ar draws de Cymru bron yn gyfan gwbl, ac roeddent yn aml yn codi eu gwersyll dros y gaeaf yn Aberdâr. Ym Maesteg gerllaw, cynhyrchodd Haggar ei ffilm gyntaf wedi'i sgriptio, The Maid of Cefn Ydfa (1902) ac fe'i dangosodd yn ffair nesaf Abertawe, a bu cryn ganmoliaeth iddi ymhlith y cyhoedd. Dros y blynyddoedd dilynol, byddai Haggar yn cynhyrchu o leiaf ddeg ar hugain o ffilmiau eraill, gan gynnwys Desperate Poaching Affray (1903), The Sheepstealer, A Message from the Sea a The Life of Charles Peace (i gyd ym 1905). Ffilmiwyd y ddwy olaf yn Noc Penfro a'r cyffiniau.

Heddiw, The Life of Charles Peace yw'r ffilm stori Brydeinig hynaf sydd wedi goroesi. Yn y ffilm hon a fu'n llwyddiant ysgubol, mae pumed plentyn William a Sarah, Walter Haggar (1880-1953), 22 oed, yn perfformio rhan egnïol dihiryn teitlog y prif gymeriad, y llofrudd a'r lleidr ysgeler o oes Fictoria. Yn ogystal â gweddill teulu Haggar a gyflawnodd bron pob rôl arall, bu aelodau'r cyhoedd o Ddoc Penfro yn perfformio fel ecstras. Er ei bod yn fyr, mae'r ffilm un rholyn ffilm hon yn cynnwys lladrata, gornestau ymladd gyda dyrnau a gynnau, ymgais fentrus i ddianc oddi ar drên a oedd yn symud, a'r weithred olaf o grogi Charles Peace.

Ffilmiwyd tua hanner y ffilm ar leoliad o gwmpas Doc Penfro yn ystod yr haf 1905. Roedd y lleoliadau ffilmio yn cynnwys Ffordd Hawkstone, Birdcage Walk a'r Orsaf Rheilffordd. Yn ogystal, cafodd William Haggar ganiatâd gan fenyw leol i ddefnyddio ei thŷ er mwyn ffilmio golygfa lladrad ac roedd Meistr yr Orsaf wedi benthyca trên iddynt ar gyfer sawl golygfa. Er y defnyddiwyd dymi ar gyfer dihangfa fentrus Peace oddi ar drên a oedd yn symud, bu Walter yn gwneud ei waith styntio ei hun, a bu ond y dim iddo gael ei ladd wrth ffilmio golygfa'r dienyddio.

Gyda fersiwn newydd mwy cymhleth o'i lwyddiant cynharach, The Maid of Cefn Ydfa, daeth gyrfa William Haggar ym myd cynhyrchu ffilmiau i ben ym 1914. Agorodd sawl sinema barhaol rhwng Llanelli ac Aberdâr. Ymhellach i'r gorllewin yn Sir Benfro, gwelwyd ei feibion yn parhau'r traddodiad teuluol. Bu Walter, seren Charles Peace, yn rhedeg Colisëwm Trydan Haggar yn Neyland rhwng 1915 a 1919 a sefydlodd William Haggar Jnr. (1871-1935) Sinema Haggar ym Mhenfro yn gynnar yn y 1930au. O blith yr holl theatrau y bu'r teulu yn berchen arnynt, hon oedd yr un a fu ar agor yr hiraf. Caeodd y llenni am y tro olaf i deulu Haggar ym 1984, gan nad oedd y sinema yn cynnig incwm hyfyw i'r teulu mwyach.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw