Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Fel pob tref barchus yng Nghymru, mae gan Ddoc Penfro ei straeon ei hun am ymweliadau gan ysbrydion. Yn un o'r straeon mwyaf adnabyddus, mae ysbryd menyw a lofruddiwyd yn ymddangos ar long cyn crwydro strydoedd Doc Penfro ar ei ffordd i'r fynwent.

Stori
Yn 1857, Doc Penfro oedd y lleoliad ar gyfer uchafbwynt nodedig yr ysbryd a gerddai HMS Asp a oedd, bryd hwnnw, yn cael ei defnyddio fel arolygiaeth yn y Llynges Frenhinol dan awdurdod y Capten George Manley Alldridge (1815-1905).

Yn ystod y blynyddoedd cyn hynny, cerddai rhyw ysbryd yr Asp yn rheolaidd. Cleciau a thrawiadau anesboniadwy mewn cabanau gwag a gafwyd i ddechrau. Ond, yn ddiweddarach, byddai ysbryd benywaidd yn codi ofn difrifol yn aml ar aelodau’r criw.

I ddechrau, wfftio cwynion ei ddynion wnaeth Alldridge, gan feddwl mai meddwyn oedd yn achosi’r synau trwy redeg i mewn i gelfi’r caban. Hynny yw, tan iddo yntau hefyd sylwi ar welyau yn symud o gwmpas, yn teimlo dwylo oer yn cyffwrdd â’i dalcen neu ei goesau – a gweld ei ddynion yn syrthio mewn ofn ar ôl dod ar draws y ddynes ysbrydol yn ymlithro heibio ar y dec ac yn pwyntio’n fygythiol at y nef.

Pan gyrhaeddodd yr Asp Ddoc Penfro ar gyfer ei hatgyweirio yn 1857, ymddangosodd yr ysbryd benywaidd unwaith eto. Y tro hwn, fodd bynnag, gadawodd y llong a throi am fynwent yr eglwys gyfagos. Ar ei ffordd yno, cododd ofn ar sawl gwarchodwr milwrol yn y dref, gan beri iddynt adael eu gynnau a rhedeg i ffwrdd. Ymhen hir a hwyr, cyrhaeddodd yr hen fynwent a oedd wedi tyfu’n wyllt, arhosodd uwchben bedd anhysbys a, chan daflu un ystum olaf tuag at y nefoedd, fe ddiflannodd ac nid oes neb wedi ei chlywed na’i gweld ers hynny.

Yn dilyn ei diflaniad, daeth Alldridge o hyd i ychydig gliwiau ynghylch hunaniaeth yr ysbryd. Flynyddoedd cyn iddo gymryd awenau'r Asp, galwyd y llong yn Fury a theithiodd fel stemar pecyn ar draws Môr Iwerddon. Un diwrnod, darganfuwyd corff menyw ifanc hardd, gyda’i gwddf wedi ei dorri gan gyllell, gan stiwardes wrth lanhau ystafelloedd cysgu’r menywod ar ôl i’r llong lanio yn Iwerddon. Ni ddarganfuwyd pwy oedd y fenyw nac ychwaith pwy a’i llofruddiodd.

Tamaid hanesyddol
- Ym 1853, cyflwynwyd hambwrdd arian cain i George Manley Alldridge gan Lloyds ‘am y gwasanaethau prydlon ac effeithlon a roddwyd ganddo i’r Stemer “Glendower” tra ar y lan ger Aberdaugleddau, Medi, 1853’.

- Yn ystod ei gyfnod yn gapten ar yr HMS Asp, gosododd George Manley Alldrige y cebl telegraff cyntaf o Gaergybi i Ddulyn ar draws Môr Iwerddon.

- Gwnaeth George Manley Alldridge arolwg o’r Afon Cleddau o Ddoc Penfro hyd at Hwlffordd a Aberdaugleddau.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw