Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd y Capten John Macgregor Skinner yn adnabyddus am weithredoedd o ddyngarwch ac roedd yn cadw lwfans wythnosol o fara i fwy na chant o bobl leol. Bu hefyd yn ymgyrchu’n ddiflino i wella gwasanaethau morwrol a phost o Gaergybi, ac i wneud y daith ar draws Môr Iwerddon yn fwy diogel, yn haws, ac yn fwy cyfforddus.
 
Yn 1832, daeth adroddiad i'r canlyniad fod Capten Skinner wedi marw ar y môr oherwydd esgeulustod y Swyddfa'r Post, a oedd wedi bod yn amharod i wneud unrhyw un o'r gwelliannau a argymhellwyd. Roedd yn 70 oed pan gafodd ei olchi dros fwrdd y llong bost ager ‘Escape’. Roedd wedi gwasanaethu'r cyhoedd drwy gydol ei fywyd fel oedolyn.
 
Mae'r paentiad olew hwn yn darlunio Capten Skinner a thrigolion arwyddocaol eraill Caergybi o ddechrau'r 19eg ganrif. Cafodd ei beintio gan ei ffrind a'i fentor, James Sparrow.
 

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw