Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Prynodd y Weinyddiaeth Awyr Benyberth, fferm 250 erw, ym 1936 i greu Maes Awyr Penrhos dair milltir i’r gorllewin o Bwllheli. Cafodd y ffermdy ei ddinistrio er mwyn codi gwersyll hyfforddi a maes awyr i’r Llu Awyr Brenhinol.

[Mae Rhestr Henebion Caernarvonshire III: West (1964) yn nodi ar dudalen 36 i’r tŷ gael ei ddymchwel pan adeiladwyd maes awyr Penrhos ym 1936. Dywedir i gynllun y ffermdy (ffigur 63) gael ei ailgreu o ffotograffau ac atgofion y cyn-breswylwyr].

Ar 8 Medi 1936 fe roddwyd yr ysgol hyfforddi ar dân fel protest yn erbyn dinistrio lle a oedd yn rhan bwysig o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Hawliwyd cyfrifoldeb am y weithred gan Saunders Lewis, Lewis Valentine, a D.J. Williams, aelodau o Blaid Genedlaethol Cymru. Bu oedi cyn ailafael yn y gwaith o adeiladu’r maes awyr.

Agorodd y safle ar 1 Chwefror 1937. Roedd cyfarpar Gwersyll Hyfforddi Arfau 5 yn cynnwys awyrennau Westland Walrus a phum cwch ar gyfer tynnu targedau a gwaith achub awyr a môr, wedi’u lleoli yn harbwr Pwllheli. Daeth Penrhos yn gartref i Ysgol Gwylwyr Awyr 9 (Ysgol Bomio a Saethu 9 yn ddiweddarach) ym mis Medi 1939. Roedd gan yr uned hon awyrennau bomio Handley-Page ac awyrennau bomio ysgafn Fairey Battle.

Yn gynnar ym 1940, defnyddiwyd y maes awyr gan Sgwadron Hyfforddi Awyrennau Ymladd 12 i hyfforddi peilotiaid awyrennau Avro Tutor, Airspeed Oxford, a Fairey Battle. Gollyngodd awyren Almaenig fomiau ar y safle ar 9 Gorffennaf 1940, gan ladd dau ddyn, dinistrio tri bloc o lety swyddogion, a difrodi sied awyrennau.

Daeth dyddiau’r Uned Hedfan Awyrennau i ben ar 16 Mehefin 1945, ond câi’r swyddfeydd a’r llety eu defnyddio hyd 31 Mawrth 1946. Daeth y safle’n wersyll dadfyddino i filwyr ac awyrenwyr Pwylaidd, yr oedd tua 100,000 ohonynt yn aros i fynd adref. Ond pan ddaeth yn glir na fyddai llawer o Bwyliaid yn gallu dychwelyd i’w mamwlad, sefydlwyd gwersyll parhaol ym 1949. Mae Cartref Pwyliaid Penrhos, fel y’i gelwir, yn parhau i gael ei ddefnyddio.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw