Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Yn ystod y 1970au, bu newidiadau sylweddol i’r gwasanaeth rhwng Abergwaun a Rosslare wrth gyflwyno fferïau ceir oedd yn llwytho o’r ochr.

Gyda chyflwyniad fferïau oedd yn llwytho o’r ochr rhwng Abergwaun a Rosslare, manteisiodd llawer mwy o bobl ar y gwasanaeth newydd a chyfnewid teithio ar reilffordd am hwylustod teithio yn eu car. Ac er bod llongau fferi modern yn cynnwys sefydlogwyr, weithiau roedd y tywydd yn achosi mordaith arw. Roedd naws fywiog ar fwrdd y llong yn ystod diwrnodau gemau rygbi rhyngwladol pan fyddai torfeydd rygbi sylweddol yn cyfrannu at awyrgylch hwyliog iawn.

Eisteddodd y Capten David Williams i lawr â Phorthladdoedd Ddoe a Heddiw i rannu ei atgofion o wasanaethu fel capten ar fwrdd y llongau fferi ar lwybr Abergwaun-Rosslare o’r 1970au hyd nes iddo ymddeol.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw