Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Ragor na chanrif yn ôl, a’r ras i deithio’n gyflymach nag erioed ar draws yr Iwerydd yn ei hanterth, daeth Abergwaun i fri byd-eang pan gyrhaeddodd y Mauretania ei phorthladd o Efrog Newydd.

Stori
Ym mis Awst 1909, cyrhaeddodd porthladd Abergwaun yn Sir Benfro y tudalennau blaen. Roedd y Cunard Steamship Company wedi dewis y dref yn borthladd galw cyntaf ar gyfer ei longau mawrion a fyddai’n croesi’r Iwerydd. Ar ei mordaith gyntaf oll o Efrog Newydd i Abergwaun enillodd un o longau Cunard, y Mauretania, y Rhuban Glas enwog am groesi’r cefnfor mewn record o 4 diwrnod ac 14 awr. Gyda’i rhwydwaith o reilffyrdd a llwybrau’r môr, cafodd Abergwaun ei chanmol yn fawr am ddwyn Efrog Newydd a Llundain yn nes at ei gilydd nag a fuont erioed o’r blaen.

Roedd llongau mawr wedi bod yn hwylio o Abergwaun ers rhai blynyddoedd, ond y Mauretania oedd y gyntaf i gysylltu ag Efrog Newydd. Disgrifiodd y Daily Mail y cyffro ar y pentir ar 30 Awst 1909 pan ddaeth y llong i’r golwg am y tro cyntaf: ‘her four great red funnels with their black tops were sighted round Strumble Head. Every point of vantage from the cliffs on the Goodwick side to the ruined fort on the old Fishguard side was lined with people, whose cheers crossed the dancing blue waves, borne on the brisk southerly breeze to greet the Cunarder.’

Roedd Abergwaun yn grochan o gyffro wrth i deithwyr y Mauretania gael eu cludo i’r lan. Daeth deg o ferched lleol mewn gwisg Gymreig i gyflwyno sbrigynnau o rug gwyn a phorffor i’r teithwyr wrth iddynt lanio, gwelid baneri’n crogi o bob tŷ a badau achub lleol yn dawnsio ar y tonnau, a thaniwyd y canonau tiriogaethol mewn saliwt. Y teithiwr cyntaf i’r lan oedd Jenkin Evans, hen ffermwr o’r gorllewin. Ymatebodd i fonllefau y rhai ar y lan gan ddweud, “Gadewais Lambed dair blynedd a deugain yn ôl, a nawr rwy’n dychwelyd i Gymru o Kansas City.”

Anfarwolwyd y Mauretania gan Rudyard Kipling fel ‘monstrous nine-decked city’, ac yn wir, roedd yn symbol o foderniaeth ond wedi’i chynllunio hefyd i siwtio chwaeth ei theithwyr dosbarth uchaf Edwardaidd. Cawsai ei haddurno â marmor, paneli pren a thapestrïau, ac roedd ynddi lyfrgell dda, ystafelloedd arlunio moethus a chaffi ar feranda. Eto i gyd, roedd teithwyr o bob dosbarth yn rhan o’r fordaith, boed hynny i bwrpas hamdden, fel ymfudwyr yn chwilio am waith, neu wrth iddynt ganlyn perthnasau a oedd wedi teithio o’u blaenau.

Wedi i’r teithwyr gyrraedd Abergwaun, roedd tri o drenau cyflym Rheilffordd y Great Western yn barod i’w cludo i orsaf Paddington yn Llundain. Chwaraeodd y GWR ran bwysig yn y broses o droi Abergwaun yn borthladd pwrpasol ar gyfer y llongau mawr, gan ddargyfeirio’r traffig oddi wrth Lerpwl, Plymouth a Southampton. Roedd cysylltiadau da rhwng llongau a rheilffyrdd yn golygu bod amseroedd aros a theithio yn cael eu cwtogi, ac yn gymorth hefyd i rannu newyddion, gyda’r Mauretania yn cludo bron i ddwy fil o fagiau post, a gafodd eu dosbarthu ar fyrder i bob cwr o’r wlad.

Yr ochr draw i’r Iwerydd, roedd y New York Herald yn canu clodydd y llong a chyflymder y daith, gan nodi bod ‘the adoption of the new and little-known port by the premier steamship company is a matter of great importance’. Roedd trywydd y daith yn fyrrach nag eraill a gystadlai â hi, yn ddim ond 2,902 o filltiroedd môr, a’r gyrchfan hefyd mewn man canolog rhwng Queenstown (Cobh erbyn heddiw) yn Swydd Corc a Lerpwl. Gwnaeth Cwmni’r GWR welliannau mawr a chostus i harbwr Abergwaun, yn cynnwys codi morglawdd enfawr i’w gysgodi o gyfeiriad y gogledd, ac yn sgil hynny creu sianel gysgodol o ddŵr dwfn a ymestynnai am chwe milltir.

Mae’r sylw a roddodd y cyfryngau i laniad y Mauretania yn profi bod y disgwyliadau’n uchel o gwmpas y porthladd. Y gobaith oedd y byddai Abergwaun yn dod yn brif ganolfan ar gyfer teithio ar draws yr Iwerydd, ond ymhen ychydig flynyddoedd roedd cystadleuaeth gan borthladdoedd eraill a chostau cynyddol wedi ei gwneud hi'n anodd iddi allu dal ei thir. Daeth y gobeithion i ben yn derfynol pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914. Ataliwyd y mordeithiau hamdden, a chafodd y Mauretania ei throi i fod yn llong filwrol. Listiodd nifer o weithwyr cwmnïau Cunard a’r GWR â’r lluoedd arfog, a thrawsnewidiwyd Abergwaun a Gwdig gerllaw i fod yn ganolfannau ar gyfer awyrennau môr a fyddai’n patrolio Môr Cymru a Môr Iwerddon am longau tanfor Almaenig.

Tamaid hanesyddol
- Roedd datblygiadau’r GWR yn Abergwaun hefyd yn cynnwys darparu taith gyflym a chyffyrddus i deithwyr o Lundain i Iwerddon. Cwtogwyd trywydd y fordaith i 54 o filltiroedd môr, ac fe’i bedyddiwyd yn ‘a new epoch in the history of Ireland’ gan bapur newydd y Times.

- Pan ffurfiwyd rhan de Cymru o Gwmni’r GWR fe wireddwyd uchelgais y peiriannydd Isambard Kingdom Brunel, a oedd wedi gobeithio y byddai Abergwaun yn datblygu i fod yn ben draw’r lein.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw