Cricieth - Menter Dreftadaeth Orau 2019
Disgrifiadau
Cricieth - Menter Dreftadaeth Orau 2019.
Roedd yn fraint a hyfrydwch i Gyngor Tref Criccieth gipio Menter Dreftadaeth Orau Un Llais Cymru 2019 ar gyfer prosiect Cofio Cyfraniad Criccieth i’r Rhyfel Mawr. Roedd y prosiect mewn partneriaeth gydag Ysgol Treferthyr, Coleg Meirion- Dwyfor, Neuadd Goffa Criccieth a’r gymuned leol. Mae gan Griccieth dreftadaeth unigryw o safbwynt y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r Neuadd Goffa yn gofeb i 49 o unigolion lleol a fu'n ymladd ac a fu farw. Mae llawer o deuluoedd a disgynyddion yr unigolion hyn yn dal i fyw yng Nghriccieth a'r ardal heddiw ac efo llawer o hanesion a chofnodion. Roedd Criccieth hefyd yn gartref i David Lloyd George, Prif Weinidog adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn ystod ei gyfnod yn Rhif 10 Stryd Downing roedd llawer o Gymry Cymraeg o Griccieth yn gweithio yno ac mae teuluoedd a disgynyddion llawer ohonynt dal i fyw yng Nghriccieth a'r ardal heddiw.
Roedd y prosiect yn bosib o ganlyniad i gael grant o £10,000 gan Dreftadaeth y Loteri (Rhaglen ‘Rhyfel Byd Cyntaf - ddoe a heddiw’). Daeth cannoedd o bobl o bell ac agos i fynychu cyfres o ddigwyddiadau yn ystod Wythnos Goffa 2018 a oedd yn benllanw gwaith unigryw a oedd wedi cymryd lle yn ystod y flwyddyn.
Mae’r Cyngor Tref yn cael budd mawr o fod yn aelod o Un Llais Cymru, sef y prif gorff ar gyfer cynghorau cymuned a thref Cymru. Un Llais Cymru sy’n sicrhau llais cryf i gynrychioli diddordebau’r cynghorau ac mae’n darparu ystod o wasanaethau o safon i gefnogi eu gwaith. Drwy fod yn aelod mae’r Cyngor Tref yn medru elwa o gyngor cyfreithiol, cyngor ar wella darpariaeth gwasanaethau, hyfforddiant, materion polisi, gwybodaeth mewn cylchlythyr misol a gwefan a hefyd mynychu cynadleddau sy’n gyfle i rwydweithio a rhannu arfer dda yn y sector. Ym mis Mawrth 2019 mynychwyd Cynhadledd Arfer Arloesol Un Llais Cymru gan y Cyng. Robert Cadwalader a’r Clerc. Catrin Jones a chyflwynwyd ar brosiect “Cofio Cyfraniad Criccieth” gan Ffion Gwyn y Rheolwr Prosiect a’r Clerc .
Ffoto 3: o’r chwith: Ffion Gwyn, Dr Catrin Jones, Y Cyng. Mike Cuddy, Cadeirydd Un Llais Cymru, Cyng. Robert Dafydd Cadwalader.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment