arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Mae'r pennawd yn Sbaeneg ar gefn y ffotograff yn dweud: “Mae Llywodraeth Euskadi, wrth amddiffyn yn arwrol wrth i'w rhyddid gael ei fygwth, yn gwasanaethu pob plentyn ac yn sicrhau fod dwylo cariadus yn eu harwain i ffwrdd o greulondeb anghredadwy heidiau Hitler a Mussolini. Sanatoriwm Plant Goriz yn cael eu harwain i'r ambiwlans.” Mae hyn yn awgrymu fod y plant yn cael eu symud o'r Sanatoriwm i leoliad arall gan y llywodraeth Basg i'w diogelu rhag ymosodiad gan luoedd Cenedlaethol Franco. Mae'r ffotograff yn rhan o gasgliad a ddaethpwyd yn ôl i Gymru gan John Williams Hughes, gwirfoddolwr o Sir Fôn a helpodd yr ymdrech dyngarol yn ystod y rhyfel. Defnyddiodd y ffotograffau hyn yn ei ddarlithoedd wedi iddo ddychwelyd.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw