John Williams Hughes a Rhyfel Cartref Sbaen

Eitemau yn y stori hon:

  • 2,161
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 949
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,159
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,555
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Rhyfel Cartref Rhyngwladol

Roedd rhywbeth oedd yn ymwneud â Rhyfel Cartref Sbaen yn ysgogi cydymdeimlad a thosturi yn y Cymry. Wedi'u hysbrydoli gan ddelfrydau sosialaidd yr Adain Chwith a gan eu hegwyddorion dyngarol, rhoddwyd cefnogaeth anghyffredin i Weriniaeth Sbaen yn ystod y Rhyfel. Codwyd arian ledled Cymru a Phrydain ac fe deithiodd dwsinau o Gymry i Sbaen i ymuno â'r Frigâd Ryngwladol ac ymladd yn erbyn Ffasgiaid Franco.

Cymro o'r math oedd John Williams Hughes o Farianglas, Sir Fôn. Ganed ef ar 20 Mai 1906, ac mi roedd Hughes yn awdur a newyddiadurwr, yn ysgrifennu i bapurau newydd fel y North Wales Observer, Y Goleuad, Tir Newydd, New Chronicle, Peace News a'r Western Mail. Cymhellodd rhesymau dyngarol i Hughes deithio o'i gartref yn Sir Fôn i wirfoddoli gyda'r Uned Ambiwlans Gymreig yn Sbaen.

Y Gwrthdaro

Yn aml mae Rhyfel Cartref Sbaen yn cael ei danbrisio yn hanes y cyfnod, gan ei fod wedi digwydd rhwng y Rhyfeloedd Byd. Dechreuodd y gwrthdaro gyda her gan swyddogion adain dde'r fyddin a Chenedlaetholwyr yn erbyn y Llywodraeth Weriniaethol ym mis Gorffennaf 1936. O fis Hydref 1936 arweiniodd y Cadfridog Francisco Franco gwrthryfelwyr y Cenedlaetholwyr ac roeddent yn gwrthwynebu gwerthoedd rhyddewyllysiol y Gweriniaethwyr y credent oedd yn bygwth pŵer yr Eglwys Gatholig a'r lluoedd arfog. Roeddent hefyd yn gwrthwynebu rhoi annibyniaeth i bobl Gwlad y Basg a Chatalonia.

Roedd y Llywodraeth Weriniaethol wedi cyflwyno nifer o fesurau cyfreithiol ers iddynt ddod i rym ym 1931 yn hyrwyddo cydraddoldeb, democratiaeth ac ymreolaeth i'r ardaloedd Basg a Chatalan. Fe wnaethant bellhau'r cysylltiad rhwng y wladwriaeth a'r eglwys a cheisio gwella amodau'r gweithwyr a'r gwerinwyr.

Cefnogaeth o Gymru

Roedd y gwrthdaro rhwng y Gweriniaethwyr a'r Cenedlaetholwyr yn adlewyrchu gwahaniaeth ehangach yn Ewrop ar y pryd. Daeth cefnogaeth i'r ddwy ochr o dros y byd wrth i Gomiwnyddion a Ffasgiaid gymryd mantais ar y cyfle i symud eu hachos ymlaen. Cafodd eraill eu denu i mewn i'r gwrthdaro am resymau dyngarol, cenedlaethol a rhyddewyllysiol. Roedd cyfanswm o 174  o Gymry ymhlith y 2,000 o drigolion Prydain a fu'n ymladd dros Weriniaeth Sbaen yn erbyn Franco. Roedd 122 yn lowyr o dde Cymru, y grŵp mwyaf ymhlith y gwirfoddolwyr o Brydain.

Credir fod cefnogaeth yn y gogledd yn wannach nag yr oedd yn ne Cymru. Gwelodd glowyr y de lawer o nodweddion yn achos y Gweriniaethwyr yn Sbaen a oedd yn debyg i'w sefyllfa eu hunain ac felly fe aethpwyd ati i gefnogi'u hachos drwy godi arian a chymorth. Yn erbyn cefndir o streiciau newyn a phrofi modd, roedd galwadau'r Gweriniaethwyr am gydraddoldeb a rhyddid yn canu cloch.

John Williams Hughes a'r achos dyngarol

Ond roedd cryn gefnogaeth yng ngogledd Cymru hefyd. Roedd John Williams Hughes yn un o nifer a gododd arian i'r achos yn Sbaen. Ef oedd cyd-ysgrifennydd Pwyllgor Cymorth Meddygol Sbaen Gogledd Cymru, yn helpu i godi arian ar gyfer cartref i ffoaduriaid o Wlad y Basg yn Hen Golwyn. Lledwyd straeon a delweddau am ladd dinasyddion diniwed, ac fe gafwyd cydymdeimlad y byd. Ym mis Tachwedd 1936 lladdwyd deugain o blant pan laniodd bom ar eu hysgol ac ym mis Ebrill 1937 achosodd y bomio systematig ar Guernica, a welir ym mhaentiad enwog Pablo Picasso, miloedd o golledigion a ffoaduriaid. Trasiedïau fel hyn oedd yn sicrhau empathi'r Cymry, yn enwedig at drafferthion pobl Gwlad y Basg.

Helpodd John Williams Hughes godi arian i anfon dau ambiwlans i Sbaen cyn cael ei benodi'n arweinydd Uned Ambiwlansiau Cymru, a mynd i weithio mewn lleoedd fel Valencia a Madrid. Anfonodd ddarllediadau o Fadrid, yn Saesneg ac yn Gymraeg, am hynt y rhyfel, ac fe roddodd adroddiad o blaid y Gweriniaethwyr ar raglen Heddiw y BBC.

Pan ddychwelodd o Sbaen, byddai'n codi ymwybyddiaeth am Ryfel Cartref Sbaen drwy siarad mewn cyfarfodydd ledled gogledd Cymru, a theithio drwy Gymru a'r Unol Daleithiau gydag arddangosfa o ddeunydd o Sbaen.