Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd y Beibl hwn yn eiddo i Miss Jane Williams, a oedd yn cadw tŷ Capten John Macgregor Skinner yn Stanley House yng Nghaergybi. Mae wedi ei arwyddo 1823.
 
Ar ôl ymladd â’r teyrngarwyr yn Rhyfel Chwyldroadol America, atafaelwyd eiddo Capten Skinner yn New Jersey a bu’n rhaid iddo ffoi. Ar ôl gwasanaethu am rai blynyddoedd yn y Llynges Frenhinol ymunodd â Swyddfa'r Post ac ymgartrefu yng Nghaergybi ymhen amser. Bu'n byw ac yn gweithio yno am o leiaf 33 mlynedd, a daeth yn feistr ar longau paced ar Fôr Iwerddon.
 
Yn y 1820au, roedd Capten Skinner chwarae rhan arall mewn hanes, pan oedd y Brenin Siôr IV yn sownd yng Nghaergybi mewn tywydd stormus. Arhosodd y llynges frenhinol, tra bod Capten Skinner yn capten pecyn stêm i Iwerddon gyda'r Brenin ar fwrdd. Yn ddyn diymhongar, gwrthododd gynnig digymell y Brenin o urddo’n farchog.
 

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw