Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae label yn cynnwys enw'r gwneuthurwr, sef 'Bowen, cabinet maker and UPHOLSTERER, Lamas Street, CARMARTHEN' wedi'i ludo y tu mewn i ddrôr hir cyntaf y ddesg ysgrifennu a'r cwpwrdd llyfrau hwn. Mae'r dodrefnyn wedi'i wneud o binwydden wedi ei argaenu â mahogani. Mae ei ffurf, sy'n cynnwys cwpwrdd llyfrau gwydrog uwchben desg a phedwar drôr, yn nodweddiadol o'r cyfnod hwn. Mae ymylon uchaf y ddesg ysgrifennu ac ymylon y droriau wedi'u gorffen gyda chornel eboni. Mae'r ddesg ysgrifennu wedi cadw ei handlenni cyfoes, sydd â chefnblatiau 'repoussé' hirgrwn gyda benyw glasurol yn lledorwedd. Mae hon yn eitem bwysig o ddodrefn oherwydd y prinder o ddarnau Cymreig wedi'u labelu o'r cyfnod ac oherwydd ei orffeniad agos i wreiddiol, a chrefftwaith o ansawdd uchel. Ychydig a wyddys am Mr Bowen heblaw ei fod unwaith yn sarsiant ym Myddin Sir Caerfyrddin ac iddo farw ym 1807.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw