Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cwilt brethyn cyfan dwyffordd sydd wedi'i wneud mewn gwirionedd o amryw o ddarnau mawr o ffabrig wedi'u pwytho ynghyd. Mae'n llwydfelyn ar un ochr a choch ar y llall. Ar y cwilt mae patrwm troellog a dail.

Cafodd y cwilt hwn ei gyflwyno'n rhodd i Amgueddfa Ceredigion. Fe'i wnaed yn defnyddio gwlân y rhoddwr ar gyfer Mr a Mrs Thomas Jones (rhieni'r rhoddwr) o Nantygele, Nanternis, tua 1910-15. Troellwyd a lliwiwyd y gwlân yn Ffatri'r Waun, Talgarreg (a oedd yn cael ei redeg gan Mr Thomas) ac yna fe'i anfonwyd i ffwrdd i'w gwau ar wŷdd 28 siafft sydd erbyn hyn yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Mae'r cwilt yn mesur 204 x 400 cm.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw