Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cricieth - Daeargwn Cymreig Mae'r Daeargi Cymreig yn tarddu o Gymru ac fe'i bridiwyd i hela llwynogod, dyfrgwn a moch daear; ond yn ystod y ganrif ddiweddaf y mae wedi ei fridio yn bennaf er dangos mewn cystadlaethau. Er gwaethaf hyn, mae wedi cadw ei gymeriad cryfder daeargi. Honnir mai’r Daeargi Cymreig yw’r brîd cŵn hynaf yn y DU. Pan ddechreuwyd sioeau cŵn, cafodd y Daeargwn Cymreig, roedd cynt braidd yn anhrwsiadus, eu tacluso ar gyfer arddangos. Bu Sioeau Amaethyddol a Garddwriaethol yn boblogaidd iawn a chredir i’r Daeargi Cymreig gael adran benodol am y tro cyntaf yn Sioe Llŷn ac Eifionydd ym Mhwllheli yn 1885. Ym 1887 cydnabod y Kennel Club yn Llundain y brîd i’w gofrestru ac ysgrifennwyd y Safon . Mae'n gadarn ac yn ganolig ei faint sy'n pwyso rhwng 20 a 22 pwys. Yn ôl safon y brîd, dylai cot y ci fod yn wifrog ac yn galed ac yn gyfuniad o ddu a brown. Mae siaced ddu yn mynd o’r gwddf i’r gynffon ac yn rhannol i lawr cluniau’r ci yn nodwedd arall o’r brîd. Mae gan y Daeargi Cymreig anian daeargi nodweddiadol. Mae'n gi hapus, bywiog, ac anaml yn swil neu'n ofnus. Yn gyffredinol, mae'n gyfeillgar â phobl a chŵn eraill. Gallant fod yn ffrindiau ymroddedig a gallant weithredu naill ai fel cŵn dinas neu fel cŵn gwledig. Ar ôl cael cydnabyddiaeth swyddogol, daeth y brîd yn boblogaidd iawn; bu nifer o drigolion Cricieth yn eu bridio ar gyfer cystadlaethau. Ymysg y rhai hyn yr oedd Dr J. Livingstone Davies, John Jones Harlech View a John Williams Bristol House. Mae eu henwau yn ymddangos yn aml fel enillwyr gwobrau mewn sioeau amaethyddol a chŵn ledled y wlad. Y mwyaf llwyddiannus oedd Walter S. Glyn (1867-1933). Roedd ei dad, perchennog llongau cyfoethog yn Lerpwl, yn rhentu Plas Brynhir oddi wrth y tirfeddiannwr lleol Syr Hugh Ellis-Nanney. Bu Walter S. Glyn fyw bywyd gwr bonheddig ac adeiladodd cenelau yn y Plas a daeth yn gystadleuydd brwdfrydig. Roedd yn fridiwr ac yn berchen ar fwy o bencampwyr Daeargwn Cymreig nag unrhyw un arall yn y cyfnod 1887 hyd ei farwolaeth ar Ebrill 17, 1933 ac ef oedd yr awdurdod blaenllaw ar y pryd ar y Daeargi Cymreig ac yn gefnogwr pybyr i’r brîd fel cŵn arddangos yn y 1900au cynnar. Bu ar un adeg yn ysgrifennydd a thrysorydd y Clwb Daeargi Cymru, etholwyd ef yn aelod o'r Kennel Club yn 1898 ac yn aelod o'r pwyllgor yn 1899. Torrodd ei gi 'Brynhir Ballad' (3) bob record trwy ennill ei 31ain Tystysgrif Her yn Crystal Palace yn 1902. Bu'n feirniaid mewn sioeau a chystadlaethau ac yn enwog am ei sylwadau llym a beirniadol; benderfynol o gynnal y brîd i safon uchel. Ym 1911 cyflwynodd 'Gwen', gyda choler arian, yn anrheg i Dywysog Cymru ym Mhlas Machynlleth, ac yna cawn hanes yr Arglwydd Attlee yn dewis y Daeargi Cymreig i'w wisg arfbais yn lle llewod neu lewpardiaid fel oedd yr arferiad. Ei reswm am y dewis, meddai, oedd oherwydd ei ffefryn oedd y 'Welsh Terrier'. Roedd gan yr Arlywydd John F. Kennedy Daeargi Cymreig o’r enw ‘Charlie’. O gi gwaith anhrwsiadus i leoedd uchel!

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw