Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Cricieth – Jack y Llongwr. Roedd yn gyffredin i newyddiadurwyr ysgrifennu colofn yn y papurau newyddion Cymreig wythnosol o dan ffug enw. Colofn boblogaidd a darllenwyd yn eang oedd Jack y Llongwr a ysgrifennodd ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ei gymeriad oedd hen forwr a oedd wedi “llyncu’r angor” ac yn trampio o gwmpas ei hen gynefin. Roedd wedi ymweld â bron bobman yn Sir Gaernarfon a Sir Feirionydd. Roedd ganddo arddull ysgrifennu unigryw, yn llawn llefaredd a thermau morwrol, yn aml yn cynnwys geiriau Saesneg wedi’u manglo. Ym mhob cymuned roedd fel petai'n adnabod, neu wedi clywed am, bawb a phopeth oedd yn digwydd. Erbyn troad y ganrif newidiodd yr arddull a daeth yn fwy barnol a gwleidyddol. Efallai fod awdur gwahanol wedi cymryd drosodd o’r gwreiddiol. Roedd cyhoeddiadau eraill yn ei efelychu ond Jack oedd y mwyaf poblogaidd ac yn y stryd, siopau a chapel roedd yn cael ei drafod yn aml a phobl yn pendroni ynghylch ei hunaniaeth. Dyma rai dyfyniadau o'i ymweliadau â Chricieth. AR DRAMP YNG NGHRICIETH - Cefais ddwy biball bridd, ac owns o faco shag, ac wedi lodio fy mhibell a’i thanio, i ffwrdd a mi i lawr y Maes, ac at lidiarda reit ar draws y ffordd. Be mae hyn yn dda, gofynnais i fonheddwr mawr fel sgwlmaster, “Rhag i ti cael dy ladd,” eba fonta, gan bwyntio i fys at bont bren. Safis ar ei phen, a ches olygfa dda oddi yno. Yn wir ichi fel yr oeddwn i yn enjoyo fy smoc a’r ffiws yno dyma stem injian reit i mewn o danna i, ac wrth i mi edrych i lawr, dyma’r ffŵl oedd yn gyrru’r injian yn gneud yr hen injian bwffio reit i fy ngwyneb, nes y bu mi a mygu. Mi ddychrynais gymaint nes y syrthiodd fy mhibell reit i lawr, ac mi ‘rydw ‘i’n credo iddi fynd i gorn
simdda’r injian, achos mi welais i lawer iawn o fwg fel mwg piball a ‘baco ynddi yn dyfod i fyny o gorn yr injian pan yn y stesion. ___________________________________ Mae llawer llongwr yn gorfod cysgu mewn fforcastl digon tila, tywyll a blêr, ond yn wir well fasa gen i eto gysgu mewn hen fforcastl felly na chysgu mewn llofft stabl fel y darfûm i neithiwr. Dyma chi mewn fforcastl, smeliach chi ddim ond oglau col tar, a hwylia, a rhaffa a farnish a petha o’r sort yna. Ond och fi mewn llofft stabl uwch ben tri o geffylau. Byddai i un neud y fath dwrw odditanai nes y byddwn yn dychryn yn ofnatsan. Ac mi fyddai un o’r tri cheffyl yn siŵr o dyrfu yn ei dyrn yn ystod y nos. Tra yr o’n i yn rowlio dan y dillad gwely ac yn ffaelu cysgu drwy y nos oherwydd y twrw a wnâi y ceffylau, cysgai fy nghyfaill yn hyfryd, gan chwyrnu a breuddwydio. _____________________________ Cŵn Harlech View syn myn’d a hi yn y shouau rŵan. Be sy’n dod o Bristol House? Mae’r Doctor wedi bod yn lwcus iawn yn y ddiweddar. Os ydi’r Cownsil am ganiatáu i gariadon gyfarfod ar ben y Dinas, bydd yn ofynnol iddynt roddi walia neu relins yno er mwyn rhwystro i gariadon syrthio yn y nos a rowlio i’r gwaelod.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw