Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mewn cydweithrediad â Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, bu Delun a Sophie yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â’r traddodiad gwerin hynafol hwn yn fyw yng Ngogledd Sir Benfro yn ystod gaeaf 2019. Trefnwyd dwy “daith”, lle ymwelwyd â thafarndai lleol gan gynnwys y Ramp Inn, Cilgerran a’r Tafarn Sinc, Rosebush. Canodd criw’r Mari ganeuon gwerin Cymraeg traddodiadol (yn aml yn llwyddo i berswadio cynulleidfa’r dafarn i ymuno). Rhwng y canu, adroddodd Delun straeon am draddodiad y Mari Lwyd a thraddodiadau gwerin lleol eraill.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw