Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

CRICIETH - Sarn Padrig a Chantre' Gwaelod.

Allan i'r môr o Gricieth, ar y gorwel, mae riff o raean, cerrig a chlogfeini. Mae'n ymestyn i'r de-orllewin o Fochras am oddeutu 20 km (12 milltir) ac yn sychu mewn mannau ar lanw isel. SARN PADRIG yw hwn neu, yn Saesneg, ST PATRICK’S CAUSEWAY. Yr esboniad gwyddonol yw ei fod wedi'i wneud o waddodion rhewlifol a adawyd trwy gilio haenau iâ ar ddiwedd yr oes iâ diwethaf. Nid oes amheuaeth bod lefelau'r môr yn is flynyddoedd maith yn ôl; datgelir boncyffion coed wedi'u ffosileiddio oddi ar arfordir Ceredigion ar lanw isel a darganfuwyd tystiolaeth o welyau mawn gwaelod y môr tu allan i geg afon Dwyfor ger Cricieth.

Mae'r enw Padrig yn awgrymu hen chwedlau sy'n gysylltiedig ag Iwerddon. Mae llawer o chwedlau hefyd yn honni bod y nodwedd wedi’i gwneud gan ddyn, yr un fwyaf adnabyddus yw stori CANTRE’ GWAELOD.

Amser maith yn ôl, pe byddech chi wedi edrych allan i'r de o Gricieth i ble mae Bae Tremadog heddiw, byddech chi'n gweld tiroedd ffrwythlon. Roedd yn rhan o deyrnas Meirionnydd ac yn cael ei rheoli gan Gwyddno Garanhir. Oherwydd natur isel y tir, cafodd ei amddiffyn rhag y môr gan forglawdd cryf. Roedd llifddorau yn y clawdd a agorwyd ar drai'r llanw i ddraenio’r dŵr o’r tir, ac a gaewyd eto wrth i’r llanw ddychwelyd, ond un noson ofnadwy, achosodd diofalwch un dyn foddi Cantre’ Gwaelod. Y dyn a oedd â'r cyfrifoldeb mawr o sicrhau bod y gatiau ar gau oedd Seithennyn. Roedd mewn cariad â merch y brenin ond cafodd hi ei haddo i un arall ac ar ddiwrnod ei phriodas meddwodd yn hollol a syrthiodd i gysgu felly arhosodd y gatiau ar agor. Chwythodd storm ffyrnig gan wthio’r llanw a oedd yn dod i mewn, i’r tir. Ffodd y bobl ond boddodd llawer a dyna ddiwedd Cantre’ Gwaelod.

----------------------------------------

Mae'r Sarn yn beryglus iawn. Dros y canrifoedd mae dwsinau o longau wedi ei daro'n, enwedig yn nyddiau llongau hwylio. Byddent yn mynd ar goll oherwydd mordwyo gwael a chrwydro mewn dryswch i'r Bae neu gael eu chwythu i mewn gan dywydd stormus. Weithiau, byddai llongau roedd yn hwylio i fyny Môr Iwerddon, yn rhwym i Lerpwl, yn camgymryd y goleudy ar Ynys Enlli am arfordir Iwerddon ac yn newid cwrs i'r dwyrain ac yn mynd i drafferthion. Byddai ychydig yn medru dianc eu hunain, byddai rhai yn cael eu difrodi a chael eu chwythu o’r Sarn ac yn cael eu dryllio ar y traethau rhwng Cricieth a Morfa Harlech a byddai rhai yn cael eu dryllio'n llwyr ar y Sarn.

Fe wnaeth badau achub Pwllheli, Abersoch, Cricieth ac Abermo achub cannoedd o bobl dros y blynyddoedd ond yn anffodus, boddodd llawer o forwyr druan.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw