Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cricieth - Brig y Bercin

Yn yr hen ddyddiau roedd Llŷn ac Eifionydd yn ardal ynysig gyda chyfathrebu gwael ar dir â'r byd y tu allan. Roedd traffig ar y môr serch hynny gan slwpiau a smaciau bach un mast yn cludo 20 i 80 tunnell o gargo a theithwyr. Adeiladwyd a gwasanaethwyd y llongau bach hyn, gyda chriw o ddau neu dri, unrhyw geg afon, neu gilfach o amgylch yr arfordir, traethau agored hyd yn oed (2). Yn ei lyfr “Hen Longau Sir Gaernarfon” (1953) mae David Thomas yn rhestru bod deuddeg wedi’u hadeiladu yng Nghricieth a deg yn Afon Dwyfor ac Abercin, dwy filltir i’r gorllewin, rhwng 1776 a 1827 (1). Mae un llong, yr ABERKYN (sic), yn sefyll allan fel 100 tunnell ac wedi'i rigio fel “brig”. Llong dau fast yw hwn gyda hwyliau sgwâr, criw mwy a hwylio “Ar Led” i lefydd tramor. Ysgrifennodd John Glyn Davies, casglwr a chyfansoddwr caneuon môr i blant (“Fflat Huw Puw” ac ati) fod y llong wedi’i choffáu mewn ychydig o benillion a chyfansoddodd y gân “BRIG Y BERCIN” ©.



“ Ffarwel Santander wlad yr haf,

Mae’r Brig yn rowlio braf.

Rhaid setio’r royals at y gwynt:

Wel haliwch bawb, awn adre’n gynt”.

Gellir cadarnhau bodolaeth yr ABERKYN yng Nghofrestr Llongau Lloyd’s. Mae'r cofnod cyntaf ym 1789 pan gofnodir ei bod yn frig o 100 tunnell, y Capten oedd Griffith Owen a'r perchennog R. Owen. Mae'r hanesydd lleol Colin Gresham yn ysgrifennu bod y tenant ar Fferm Abercin ar yr adeg hon yn deulu o'r enw Owen. Mae awdur arall, Henry Hughes a ysgrifennodd y llyfr clasurol am longau Porthmadog “Immortal Sails”, yn nodi ei bod hi’n Saint Petersburg, Rwsia, ym 1795. Mae hyn yn ôl pob tebyg yn wir gan iddi gael ei chofnodi yn Gofrestr Lloyd’s fel masnachu i Sweden yn y Baltig. Y cofnod olaf yw 1897 ac yna mae hi'n diflannu o hanes. Efallai iddi gael ei dryllio neu hyd yn oed ei chymryd gan y Ffrancwyr gan ein bod yn rhyfela â nhw ar y pryd a daliwyd sawl llong leol.



Delwedd 1: Paentiad o frig nodweddiadol o'r cyfnod gan Joseph Walter (1783-1856) a llun paentiad aber Afon Dwyfor gan William Cadwalader (1879-1962).

Delwedd 2. : Paentiad smac yn dadlwytho calchfeini ar draeth Afonwen ger Cricieth gan R.D.Cadwalade

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw