Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Ar Stryd Fawr Cricieth mae yna gapel hardd ai gelwir yn Gapel Mawr. Capel Methodistiaid Calfinaidd ydyw ac mae cofrestrau yn dangos bod on bodoli mor gynnar â 1813. Ail-adeiladwyd y capel yn ei ffurf bresennol yn 1822. Adeiladwyd yr Ysgol Sul yn y cefn rhwng 1889 a 1900 ac ail-ddyluniwyd y talcen blaen ar yr adeg hon. Maer Capel yn enghraifft dda o gapel tref gyda thalcen steil syml Neo-glasurol. Roedd tad Margaret Owen (gwraig David Lloyd George) yn ddiacon yn y capel.
Rhyw ganrif yn ôl bu storm fawr yng Nghricieth gyda gwynt a glaw na welodd neb mohono byth or blaen. Cau gwnaeth siopaur Stryd Fawr a dianc gwnaeth trigolion y dref i lochesu yn eu cartrefi clud. Ni fentrodd neb allan am ddiwrnod cyfan. Rhuodd y gwynt a phistylliodd y glaw gan godi twrw mawr yn y dref. Wedir storm leddfu roedd yna waith trwsio a thacluso; llechi wedi sgathru ar hyd y Stryd Fawr a changhennaur coed wedi disgyn dros y ffyrdd. Ni sylwyd tan dridiau wedir storm bod y bêl fawr odidog ar ben cribyn y capel wedi disgyn. Er yr uchder, roedd y belen wedi goroesi heb unrhyw grafiad. Roedd y diweddar Mr J.R. Jones yn cofio'r storm a'r hyn a ddilynodd. Rhai wythnosau wedir storm rhoddwyd cais allan yn y papur newydd yn gofyn am help i osod y garreg yn ôl yn ei le ar ben y capel. Y wobr ir un oedd yn fodlon mentror 100 troedfedd oedd £5 a darparodd blaenoriaid y capel ystôl newydd ar gyfer yr her. Daeth y dydd i gyhoeddir dyn dewr a Richard Roberts o Barciau Bach oedd y dyn hwnnw. Aeth i fynyr ystôl yn droednoeth a charior bel ai wynt yn ei ddwrn. Roedd torf islaw wedi ymgynnull i ddymunor gorau iddo ar straen o garior bel yn amlwg wrth iddo anadlun drwm wrth ddringo. Gwaeddodd y dorf islaw wrth iddo gyrraedd y brig, yn hapus iddo gyrraedd yn saff ar garreg yn ôl yn ei le. Gafodd ei wobr o £5 am ei holl ymdrech. Oherwydd dewrder Richard Roberts ellir gweld y belen ithfaen hardd yn gadarn yn ei le hyd heddiw a diolchwn am ei ddewrder wrth ddringo ir copa.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw