Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r ffordd rydyn ni'n cyfathrebu, siopa, prynu nwyddau a dod o hyd i wybodaeth wedi mynd trwy lawer o newidiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cyn i'r ffordd dyrpeg ac yna'r rheilffordd gyrraedd yn ystod y 19eg ganrif roedd Cricieth yn gymuned ynysig mewn rhan anghysbell o'r wlad. Roedd newyddion o'r byd y tu allan yn araf yn cyrraedd yr ardal ac yn bennaf daeth yn ôl gan forwyr a phorthmyn. Roedd yn rhaid i bobl fod yn hunangynhaliol ac roedd y rhan fwyaf o fwyd, cynnyrch a nwyddau yn cael eu prynu neu eu cyfnewid mewn ffeiriau a marchnadoedd. Byddai, tinceriaid a phedleriaid yn crwydro cefn gwlad yn gwerthu eitemau bach. Daeth newidiadau mawr i'r gwelliant mewn cyfathrebu ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd. Cynyddodd datblygiad fasnach forwrol Porthmadog gerllaw yn enwedig y gwasanaeth wythnosol yn ôl ac ymlaen i Lerpwl gan y stemar fach SS Rebecca.
Cyn i'r rheilffordd gyrraedd, roedd y goets fawr yn cludo teithwyr a phost rhwng y prif drefi a Lloegr a charwyr yn cludo nwyddau o amgylch y dref a rhwng trefi a phentrefi. Yn ystod oes Fictoria ddatblygodd Cricieth fel cyrchfan glan môr ac adeiladwyd siopau ar hyd y Stryd Fawr. Roedd bywyd yn gwella ond roedd tlodi o hyd. Ar ddechrau'r 20fed ganrif nid oedd unrhyw fuddion cymdeithasol na phensiwn henaint ac roedd yn rhaid i rai dibynnu ar berthnasau, elusen neu yn waeth, y wyrcws. I oroesi, daeth pobl o hyd i ffyrdd o ennill ceiniog neu ddwy drwy werthu eitemau bach. Mae A. Evelyn James yn disgrifio rhai o’r cymeriadau hyn yn y llyfr bach “Lle Treigla’r Dwyfor” a gyhoeddwyd gan Sefydliad y Merched. Y mwyaf anarferol oedd Wil “Wialen Wedw” a grwydrodd y strydoedd gan werthu bwndeli o frigau bedw. Roedd y rhain yn gyfarwydd ar un adeg ac fe'u defnyddiwyd i guro plant drwg er yn aml roedd y bygythiad yn ddigonol! Byddai ei alwad o “WALW WEDW” yn dychryn y plant. Un arall oedd hen dramp a werthodd bwnshys o ferwr d?r. Byddai gwragedd, yn aml yn weddwon, yn prynu pysgod gan y pysgotwyr ar y traeth ac yn eu gwerthu o ddrws i ddrws neu yn y stryd a byddai'r merched cocos o Benrhyndeudraeth gyda sach o gocos ar eu cefn yn eu gwerthu fesul pot jam gwag ac yncrwydro cyn belled â Chricieth yn enwedig ar ddyddiau ffair. Boddwyd s?n y gwerthwyr hyn yn gweiddi am eu nwyddau gan Guto Pritchard, crïwr y dref. Roedd yn ffigwr cyfarwydd ar Bont Cwrt, yn canu ei gloch ac yn bloeddio cyhoeddiadau gan Gyngor y Dref, digwyddiadau a hysbysebion. Byddai diddanwyr a cherddorion, hyd yn oed band “Wmpah” Almaeneg ar un achlysur, yn perfformio ar y Maes neu i lawr ar y promenâd ond ni chroesawyd y rhain gan Gyngor y Dref a chawsant eu herlid i ffwrdd! Roedd gan y mwyafrif o'r siopau ferlod a thrapiau ar gyfer dosbarthu eu harchebion, ac yn ddiweddarach gan hogiau ar feiciau. Yr olaf o’r rhain oedd Griff Owen, bachgen y cigydd yn yr 1980au.
Roedd gan adeiladwyr, peintwyr, seiri a masnachwyr eraill gerti llaw i gario eu hoffer a'u deunydd. Roedd arogleuon, s?n a gweithgareddau'r Stryd Fawr yn hollol wahanol i heddiw. Ac eithrio'r traffig trwm sy'n mynd trwy'r dref heddiw mae'r Stryd Fawr a'r Maes yn llawer tawelach er ei bod yn dal yn braf eistedd neu sefyll ger Pont y Cwrt yn sgwrsio ac yn gwylio'r byd yn mynd heibio.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw