Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dau glawr record cardfwrdd sy'n cynnwys recordiau. Cafodd yr eitemau eu prynu o 'The Record Salôn.' Busnes gyda safle yn 37 Oxford Street, Aberpennar a 49b Commercial Street, Aberdâr, oedd yn eiddo i A. Shumanski [Abraham].

Mae gan y cloriau recordiau ddarluniadau o ddau fath gwahanol o chwaraewr recordiau ac maent yn nodi  ‘All makes and latest records kept in stock’ a ‘Gramophone and wireless repairs done on the premises.’ a hefyd 'H.P. Terms Arranged’  sy'n awgrymu y gallai cwsmeriaid wneud rhan-daliadau  fel rhan o gytundeb i brynu'r cynnyrch drwy dalu rhandaliad cychwynnol ac yna ad-dalu'r balans sy'n weddill dros amser ynghyd a'r llog arno. Y recordiau y tu mewn i'r cloriau yw 'Cwm Rhondda' gan Gôr Cymraeg y Fwrdeistref ac 'I Belong to Glasgow' gan Will Fyffe (1927). Mae gan y ddwy record hefyd stamp post arnynt, o bosib gan y gwerthwr, er mwyn dangos bod yr eitemau wedi cael eu talu amdanynt yn llawn. 
 

Y Record Salon yn 49b Commercial Street, Aberdar pedd y trydydd busnes yn dwyn yr enw hwnnw gafodd ei agor gan Abraham Shumanski. Ganwyd Abraham yn Warsaw yn 1885 a symudodd ei deulu i Gaerdydd rhywbryd tua 1901. Roedd yn wneuthurwr watsys o ran galwedigaeth, ac agorodd ei siop gyntaf yn 16 Lewis Street, Aberaman, ac yna agorodd siop arall yn 37 Oxford Street, Aberpennar. Yn 1920 priododd Rachel (Rae) Harris, o deulu o Iddewon amlwg yn Aberdâr a buont yn byw yn lleol hyd o leiaf 1939. Erbyn 1957 roeddent wedi symud i Gaerdydd, ond yn parhau i deithio'n ddyddiol i Aberpennar i redeg y busnes yno. Rhywbryd yn ystod y 1960au fe wnaethant werthu'r siop yn Aberdar i un oedd yn gweithio yno sef Grace Jones. Does wybod pryd y daeth y busnes arall i ben. Bur farw Abraham yn 1973, yn 78 oed. Bu farw Rae yn 1977, yn 77 oed.

Ar droad yr 20 ganrif, roedd gan Gwm Cynon gymuned Iddewig fechan, yn cynnwys rhyw hanner cant o deuluoedd oedd yn byw yn nhrefi Abercynon, Penrhiwceiber, Aberpennar,  Aberaman ac Aberdâr. Daeth y rhan fwyaf o'r teuluoedd Iddewig draw i Aberdâr o Ddwyrain Ewrop, yn bennaf o Rwsia. Mae'r cofnod cyntaf o bresenoldeb yr Iddewon  yng Ngwm Cynon yn dyddio'n ôl i 1858-9. Caiff enwau Harris Freedman a phartneriaeth Lyons and Hyman eu rhestru fel rhai oedd yn gweithredu fel siopau gwystlo a delwyr cyffredinol yn Aberdâr.  Yn wreiddiol byddai aelodau o'r gymuned Iddewig yn addoli yn nhai unigolion, neu mewn adeiladau busnesau, ond yn 1887 caniataodd David Hart i'w eiddo yn 19a Seymour Street, Aberdâr gael ei ddefnyddio fel Synagog parhaol. Roedd y gynulleidfa Iddewig yn  Aberdâr ar ei mwyaf, gyda thua 90 o aelodau, o'r 1910au i'r 1930au. Fodd bynnag, lleihaodd y niferoedd o fewn y gymuned, ac roedd y gwasanaethau wedi dirwyn i ben i bob pwrpas erbyn 1957, pan oedd gan y gynulleidfa 35 o aelodau.  Yn 1966 adroddwyd nad oedd gwasanaethau y cael eu cynnal yno bellach.  Derbyniodd yr adeilad, sydd bellach yn dŷ preifat unwaith eto, gofeb glas yn 2015. 

Storfa: Amgueddfa Cwm Cynon: ACVMS 2019 49; ACVMS 2019 50

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw