Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

 Roedd Arthur Tulloch, brodor o Garden City, Glannau Dyfrdwy sir y Fflint yn wneuthurwr ffilmiau amatur brwd. Roedd ei waith, a gofnodwyd ar ffilm lliw ‘Super8’ a oedd yn arloesol ar y pryd, yn cynnwys golygfeydd o ‘Pysgota ar Afon Dyfrdwy’, ‘Bywyd Teuluol ar Lannau Dyfrdwy’, ‘Gwaith Dur Shotton’ - ac wrth gwrs y cofnod diddorol hwn o ddechrau'r 1970au, sef ‘Jiwbilî Bwcle’. Mae ‘Jiwbilî’ Bwcle yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei ddathlu ers amser maith. Mae’r rhai sy’n mynychu yn cynnwys bron bawb sy’n ymfalchio ym mhedigri Bwcle, yn ogystal â nifer o unigolion a theuluoedd o gylchoedd ehangach sydd, yn syml iawn, yn dymuno rhyfeddu at basiantri’r sioe a bod yn rhan o ddathliad cymunedol hwyliog. I unrhyw un sydd â llygad am symudiad a lliw, roedd dyfodiad camerâu ‘cine’ fforddiadwy o ansawdd da yn cynnig cyfle unigryw i bobl gyffredin ddal ysbryd unrhyw achlysur. Gyda thref Bwcle ar garreg y drws, mae'n rhaid bod Mr Tulloch wedi meddwl bod gorymdaith y Jiwbilî yn gyfle rhy dda i’w golli ar gyfer ei ddiddordeb amser hamdden!

Mae'r union flwyddyn pan gynhaliwyd y digwyddiad penodol hwn yn dipyn o ddirgelwch! Mae'r rîl ffilm wreiddiol yn brin o fanylion! Efallai y gallwch chi helpu? Os oeddech chi yno – neu os ydych chi’n gallu darparu unrhyw dystiolaeth sy’n gallu cadarnhau’r flwyddyn yna byddai The Buckley Society yn falch o glywed ganddoch chi! Mae croeso i chi ychwanegu unrhyw wybodaeth sydd gennych chi yn y blwch sylwadau isod. Mae cynhyrchwyr gwirfoddol y trawsgrifiad digidol hwn yn ddiolchgar i deulu Tulloch am eu cydweithrediad caredig wrth hwyluso ymdrechion i sicrhau bod y gwaith hwn ar gael i gynulleidfa ehangach. Gwaith camera gwreiddiol: Arthur Roy Tulloch, Cydgysylltydd yr Archif Deuluol: Brian Perrett; Ymchwilydd Buckley Society: Paul Davies; Digido ac ôl-gynhyrchu (2021): John Butler.

 

 

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw