Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mike Phillips, yn cael ei gyfweld gan Tom Jones. Daeth i Gymru ar ôl hyfforddi fel peiriannydd. Ar ôl mynychu'r Ysgol Goedwigaeth, ei swydd gyntaf oedd yn Nhywi lle'r oedd yn gyfrifol am Panyfedwen. Mae'n sôn am ffermydd yn yr ardal a digwyddiadau cofiadwy. Mae hefyd yn crywbwyll canolfannau Llu Awyr America. Yn ystod y cyfweliad, trafodir y pynciau canlynol: ei hyfforddiant fel peiriannydd; y penderfyniad i fynd yn goedwigwr; yr ysgol goedwigaeth yng ngogledd Cymru; ei anfon am y tro cyntaf i weithio yng nghoedwig Tywi yn 1955; bod yn gyfrifol am Panyfedwen; barcutiaid coch; dal brain; llwytho yn Diffws; 'bara te'; gweision fferm; Panyfedwen; cwympo coed am y tro cyntaf – annisgwyl; Nantllwyd – Maesglas; Soar y Mynydd; Fanog; fferm yn cael ei gwerthu a'r tai allan yn cael eu defnyddio gan y Comisiwn Coedwigaeth; dyletswyddau cyffredinol; I. O. Evans yn mynd ar goll; merch wedi'i hanafu – wedi'i thaflu gan geffyl; gweithio gyda siaradwyr Cymraeg; symud i Dregaron; teimlo'n drist yn symud o Tywi; Ysgol Goedwigaeth Gwydyr – y brif agwedd oedd cost a ffyrdd economaidd; ymddygiad swnllyd; ymweliadau cyfnewid – gwahanol amgylchiadau a brofir; canolfannau Llu Awyr America.

Mae'r mynegai, y ffurflen ganiatâd a'r nodiadau am y cyfweledig (YF11) yn cael eu dal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw