Hanes y Goedwig - arddangosfa gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi'i hysbrydoli gan y Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain 2018-2021
Prosiect gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru oedd Hanes y Goedwig i gofnodi hanes llafar pobl sy'n ymwneud â blynyddoedd cynnar gweithgareddau'r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru, gan gynnwys adeiladu ffyrdd, aredig, plannu, ffrwydro a gweithgareddau eraill yng nghoedwigoedd Cymru. Cynhaliwyd y cyfweliadau fel rhan o brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri rhwng 2002-2003. Dewiswyd y cyfweleion trwy siarad â gweithwyr y Comisiwn Coedwigaeth a oedd wedi ymddeol yn ddiweddar a thyfodd y rhestr o drafodaethau gyda'r cyfweleion. Fel rhan o'r prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain (DETS) defnyddiodd myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth y cyfweliadau fel ysbrydoliaeth i greu'r arddangosfa ar-lein hon.