Skip to main content

Y Ferch o Gefn Ydfa A'r Ferch O'r Sgêr - Allan James - Llyfrgell Maesteg 4 Tachwedd 1998

Disgrifiadau

Allan James yn sôn am ddwy stori leol yn Llyfrgell Maesteg, 4ydd Tachwedd 1998. Mae’r Ferch o Gefn Ydfa yn stori gariu drasig am Ann Thomas (1704 - 1727) a Will Hopcyn (1700 - 1741). Roedd Ann yn dod o bentref Llangynwyd, Maesteg a syrthiodd mewn cariad â'r töwr Will Hopcyn. Yn anffodus fe'i gorfodwyd i briodi Anthony Maddocks, ond roedd Ann yn anhapus iawn. Mae Will Hopcyn yn adnabyddus am ei gân "Bugeilio'r Gwenith Gwyn" sy'n ffefryn mawr i'r corau lleol yn y cwm. Mae’r Ferch o’r Sgêr yn adrodd hanes Elizabeth Williams a’r telynor Thomas Evans. Roedd tad Elizabeth yn gandryll pan glywodd am y garwriaeth, ac fe wnaeth ei chloi yn ei hystafell yn Sker House, Porthcawl. Gorfodwyd i briodi Thomas Kirkhouse o Gastell-nedd, ond mae’n torri ei chalon, ac o fewn naw mlynedd i'w phriodas, mae Elizabeth yn marw yn 1776. Cafodd y stori ei hanfarwoli (a’i newid gryn dipyn) gan R. D Blackmore (awdur Lonra Doone) yn 1872.

 

Owner:
Awen Libraries
Crëwr:
Bridgend Library and Information Service
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
13/6/2021
Date originally created:
4/11/1998
Gwelediadau:
867
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment