Awen Libraries Local and Family History Centre
Dyddiad ymuno: 04/06/21
Amdan
Ein pwrpas yw Gwella Bywydau Pobl trwy ddarparu gofod a chyfle i bobl fwynhau profiadau diwylliannol bywiog sy’n ysbrydoli a gwella eu synnwyr o les. Ymgorfforir ein gwerthoedd ym mhopeth a wnawn.
O’r ffordd rydym yn rhyngweithio â’n cwsmeriaid a phartneriaid i sut rydym yn gweithio’n fewnol gyda chydweithwyr, dyma ein gwerthoedd:
CREADIGOL
Rydym yn ystyried ffyrdd ffres, creadigol i ddal i wella’r hyn a wnawn a sut rydym yn ei wneud. Rydym yn cefnogi arloesedd ac rydym yn ymatebol i’r byd cyfnewidiol o’n cwmpas.
CYDWEITHREDOL
Rydym yn rhagweithiol wrth ddatblygu perthnasau positif yn fewnol ac yn allanol gyda chydweithwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid.
GRYMUSOL
Rydym yn grymuso pobl i gyflawni eu potensial ac yn peri i bethau da ddigwydd.
TEG
Rydym yn ymdrechu i fod yn deg ym mhopeth a wnawn ac yn ein parchu ein gilydd a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mewn blwyddyn arferol gallwn ddisgwyl mwy nag 1 miliwn o ymwelwyr/defnyddwyr i’n gwasanaethau a dynnir o bob rhan o’r bwrdeistref sirol ac ymhell y tu hwnt. I gael gwybod rhagor am un o’n gwasanaethau neu gyfleusterau, cliciwch ar y ddolen berthnasol.