Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cricieth - Thomas Burnell Prifathro am 44 mlynedd.

Sefydlwyd Bwrdd Ysgol Cricieth yn 1871. Ar ôl deng mlynedd mewn adeiladau dros dro, adeiladwyd ysgol newydd yn 1881. Ganwyd Thomas Burnell yng Nghaerwysg ym 1860. Graddiodd a phenodwyd ef yn brifathro i'r Ysgol Fwrdd newydd yng Nghricieth yn ifanc iawn yn un ar hugain oed ym 1881. Yn fuan ymgartrefodd i'r gymuned a phriododd merch leol. Daeth yn siaradwr Cymraeg rhugl ac er bod gwersi
yn cael eu dysgu yn Saesneg anogodd ddwyieithrwydd. Fel cynghorydd gwasanaethodd fel cadeirydd sawl gwaith a chynrychiolodd y dref ar lawer o bwyllgorau a chyfarfodydd ledled y wlad. Yn 1905 ysgrifennodd a chyhoeddodd y llyfr tywys twristiaeth gyntaf ar gyfer y dref. Roedd hefyd yn Ysgrifennydd Anrhydeddus gorsaf y bad achub. Ar ôl pedwar deg pedair blynedd o wasanaeth ymroddedig i'r gymuned ymddeolodd ym 1925. Bu farw ym 1930 a chafodd ei alaru'n fawr yn arbennig gan y cenedlaethau o blant a oedd wedi eistedd wrth ei draed.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw