Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Cricieth Addoliant.
Adeiladwyd eglwys Santes Catherine dechraur bedwaredd ganrif ar ddeg ond roedd adeilad addoli yn y fan yn gynharach. Pan ddatblygodd y dref fel cyrchfan gwyliau roedd angen eglwys mwy o faint a chafodd Sant Deiniol ei adeiladu yn 1887. Caewyd yr eglwys hon i addoli ym 1988 ac fei trawsnewidiwyd yn fflatiau preswyl ym 1994. Mae St Catherines yn parhau ar agor. Ar y dechrau, cynhaliodd y grwpiau anghydffurfiol gyfarfodydd ac addoli mewn amryw o dai ac adeiladau yn y dref ac o amgylch yr ardal. Adeiladwyd y capel ym Mhen y Maes gyferbyn â Theras Arfonia ym 1791 a'i ail-adeiladu ym 1817. Yn y nant wrth ymyl y capel bedyddiwyd David Lloyd George. Roedd yr eglwys hon wedi bod yn gynulleidfa Bedyddwyr Albanaidd, ond roedd wedi torri i ffwrdd i ddod yn ddilynwyr Alexander Campbell - Disgyblion Crist ym 1847 (Bara Caws).
Pan adeiladwyd y capel newydd Berea ar Deras Tanygrisiau ym 1886 symudodd y gynulleidfa yma. Ymunodd â'r Bedyddwyr prif ffrwd ym 1939. Mae cofnodion Methodistaidd Calfinaidd yn dangos bod capel (Capel Mawr) yn bodoli ar y briffordd mor gynnar â 1813, er bod Cyfrifiad Crefyddol 1851 yn awgrymu bod adeilad y capel wedi'i godi tua 1822. Ail-adeiladwyd rhwng 1889 - 1900. Yn 1889 arweiniodd y gweinidog John Owen a phedwar blaenor gan gynnwys Richard Owen, tad yng nghyfraith David Lloyd George, wahaniad i adeiladu ail gapel (Capel Seion). Ar y dechrau roedd y gynulleidfa hon yn addoli yng Nghapel Methodistiaid Calfinaidd Saesnig wrth droed y castell, a adeiladwyd ym 1879. Ymhlith y rhestr o danysgrifwyr i'r capel hwn roedd meistri llongau, asiantau a masnachwyr o bob cwr o'r byd, a gasglwyd gan berchennog llongau lleol Captain Thomas Williams. Yn ddiweddarach symudodd y gynulleidfa i Gapel Seion, a adeiladwyd ym 1895. Caeodd Capel Mawr ar y Stryd Fawr ym 1995 ac ymunodd y gynulleidfa â Chapel Seion. Ailenwyd y safle hwn yn Gapel Y Traeth. Yn 2014 caeodd y Capel Annibynnol Jerwsalem (adeiladwyd 1868) ac mae'r gynulleidfa hon bellach yn rhannu Capel y Traeth. Adeiladwyd y Methodistaidd Wesleaidd Capel Salem gyntaf c.1809, ond fe'i hail-adeiladwyd yn ddiweddarach i ddyluniad Owen Morris Roberts o Borthmadog ym 1869. Mae plac uwchben y drws ffrynt yn nodi 1901 felly mae'n rhaid bod gwaith pellach wedi'i wneud bryd hynny. Mae Capel Salem bellach yn gapel gorffwys ymgymerwr. Adeiladwyd yr eglwys Babyddol ar Ffordd Caernarfon ym 1957 at ddefnydd y gymuned fach Babyddol ac ymwelwyr. Caeodd ei ddrysau ym 2016.
Daeth Eglwys Deuluol Cricieth i fodolaeth yn ffurfiol ym mis Mai 2000, pan ddechreuodd gr?p o Gristnogion yn y dref gyfarfod gyda'i gilydd yn wythnosol i addoli. Mae gwreiddiau'r eglwys yn gadarn yng Nghlwb Gwyliau'r Undeb Ysgrythur (yr CSSM gynt) sydd wedi bod yn nodwedd o'r haf yng Nghricieth er 1903.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw