Cricieth - Yr Hen Garchar
Disgrifiadau
Cricieth - Yr Hen Garchar
Defnyddiwyd y castell Cymreig yng Nghricieth i gadw carcharorion pwysig a hefyd ambell dro ar ôl y goncwest Saesnig i fyny ir dydd dinistriodd Owain Glynd?r y dref ar castell yn 1404. Yn ystod y canrifoedd canlynol y ddau bailiaid, a oedd yn cael eu hetholi bob G?yl Mihangel, oedd yn gyfrifol am anifeiliaid yn crwydro rhydd, ysbwriel a materion niwsans. Fel arfer enwir yr adfeilion sydd ar Y Maes, yr Hen Garchar. Mewn gwirionedd ffolt oedd y strwythur; lle'r oedd y bailiaid yn cadw anifeiliaid oedd yn crwydro o gwmpas y dref. Roedd rhaid ir perchenogion dalu dirwy i adennill eu hanifeiliaid. Yn aml, yn enwedig ar nosweithiaur ffeiriau, cafodd yr hogiau stwrllyd eu cloi yn y ffolt. Yn 1858 sefydlwyd Heddlu Sir Caernarfon ac adeiladwyd Gorsaf Heddlu ar y fan ym 1866 efallai yn ymgorffori rhan or hen adeilad. Roedd y cwnstabl ai deulu yn byw yna ac roedd o leiaf un gell. Yr heddwas cyntaf oedd William Owen o Lanengan. Cafodd yr heddluoedd Siroedd eu huno yn 1950 i ffurfio Heddlu Gwynedd. Adeiladwyd T? Heddlu uwch ben y Maes a dymchwelwyd yr hen orsaf ond maen debygol bod rhan or hen ffolt wedi ei adael i sefyll.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment