arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • COFEB I AP FFARMWR, DWYRAN

  • Gweld map
Map Argraffiad 1af (1868-1892) Ail Argraffiad (1899-1908) Trydydd Argraffiad (1920-1932) Pedwerydd Argraffiad (1938-1954) Tithe Map
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon
  • Lawrlwytho (defnydd anfasnachol yn unig)

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.

Delwedd 1:Download link to the full resolution of image number 1
full resolution of image 1

Disgrifiad

Cafodd John Owen Jones (llysenw Ap Ffarmwr), ei eni ym 1861 yn Nhrefdraeth ac yn ddiweddarach aeth i fyw i Gae’r Llechau ger Dwyran. Aeth i’r Ysgol Bwrdd yn Nwyran a daeth yn brentis o ddilledydd i Lewis Lewis, Caernarfon yn 14 oed, ac yn ystod y cyfnod hwn bu’n darllen gweithiau awduron fel Darwin, Huxley, Ruskin, a Carlyle ac yn mynychu ysgol a gedwid gan Mr. Kirk yn y dref. Wedyn fe aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth am dair blynedd ac i Goleg Owens, Manceinion am flwyddyn. Dechreuodd ei yrfa yn Llundain lle bu’n gweithio i Gwmni Newyddiaduron Cenedlaethol Cymru (Welsh National Press) a oedd yn cyhoeddi nifer o bapurau newydd gan gynnwys Y Werin, ond dychwelodd i Ynys Môn ym 1885 lle sefydlodd ysgol yn Nwyran. Hefyd fe ysgrifennodd lawer o erthyglau (a gyhoeddwyd, er enghraifft, yn Y Cymro a’r North Wales Observer and Express) ar faterion gwledig, gan gefnogi achos gweithwyr fferm yn fwyaf arbennig. Arweiniodd ei ymgyrchoedd ar eu rhan at welliannau sylweddol yn eu horiau gwaith ond bu ei ymdrechion i sefydlu undeb i gynrychioli gweithwyr amaethyddol Môn yn aflwyddiannus. Roedd y gweithwyr fferm yn benderfynol o ddangos eu gwerthfawrogiad o ymdrechion Ap Ffarmwr ar eu rhan, ac mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llangefni, ar 11 Mai 1893, cyflwynasant wats aur iddo. Yn y cyfarfod hwn hefyd fe dderbyniwyd cynnig i ffurfio undeb, a galwyd ar Ap Ffarmwr i gymryd yr awenau. Ni chafodd undeb ei ffurfio, fodd bynnag, oherwydd gwrthwynebiad y ffermwyr ac amharodrwydd y gweithwyr i dalu tanysgrifiadau ac, o bosibl, gan i Ap Ffarmwr symud i Ferthyr cyn cwblhau’r gwaith. Bu farw ym 1899 a chafodd ei gladdu ym mynwent y capel yn Nwyran. Ffynhonnell: Y Bywgraffiadur Cymreig. Llun gan Ed Rowe, tynnwyd yn 2021.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw