Cricieth - Y Dechreuad
Disgrifiadau
CRICIETH - Y DECHREUAD Roedd eisoes pobl yn y cornel y bae pam ddim? Maer mynyddoedd garw yn tyneru trwyr godreon a cymoedd i lawr at wastadedd arfordirol llyfn, perffaith am setlo. Roedd y pobl Neolithig ar Celtaid yma, yr Ordovices; dynion or Iwerddon y Gangani, a Leinster ac efallai dyna ydir fynhonnell or enw Ll?n. Mae olion ou hanheddau, cromlechau, faglau pysgod a nodweddion archeolegol eraill yn ein hatgoffa am eu presenoldeb. Maith yn ôl, yn niwloedd amser, datblygwyd y werin ir Cymry. Sefydlodd trefn a gweinyddiaeth ac enwir yr ardal Dunoding efo dau gantref, Ardudwy ac Eifionydd, rhan or deyrnas Gwynedd. Roedd y werin yn byw mewn unedau teuluol ar dir adnabwyd fel gwelyau oedd yn cymryd eu henw ar ôl pennaeth y teulu. Dominyddwyd disgynyddion dau deulu'r ardal; y rhai o Owain Gwynedd yr ucheldir a thras Collwyn ap Tango a gynhaliwyd p?er ar hyd y gwastadedd arfordirol. Daeth disgynyddion uniongyrchol y ddau deulu yma'r Pobl Fawr y bonedd a oedd yn perchenogir tir. Roedd y weddill yn byw bywyd cynhaliaeth mewn bythynnod, tyddynnau a hofelau. Datblygwyd cymunedau bach, yn agos i ffosydd, rhydau, cegau afonydd a childraethau cysgodol. Yn y fan lle mae Cricieth heddiw mae ffrwd yn gwagio ir môr yng nghysgod pentir oedd yn darparu dwr yfed a fan cysgodol i lanio cychod pysgota. Yma ddechreuodd ein tref fach.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment