Cap pêl-droed rhyngwladol Cymru, cyflwynwyd i Bryn Jones, 1934-35
Disgrifiadau
Ganed Brynmor Jones ym Merthyr Tudful ym 1912, a dechreuodd ar yrfa fel glöwr. Fodd bynnag, llwyddodd ei sgiliau fel mewnwr ar y maes pêl-droed i dynnu sylw'r clybiau. Ymunodd â Glenavon yng nghynghrair Iwerddon ond dychwelodd i Gymru ym 1933 i chwarae i Aberaman. Cyn diwedd y flwyddyn ymunodd â chlwb Wolverhampton Wanderers am £1,500. Ym 1938 symudodd i Arsenal am y swm mwyaf erioed o £14,000.
Enillodd Jones 17 cap dros Cymru yn y 1930au a'r 1940au, a chwaraeodd yn y tîm a orchfygodd y Saeson 2-1 ym 1936.
Ymddeolodd o bêl-droed yn y pendraw ar ôl iddo gael ergyd ar ei ben gan blismon yn ystod taith Arsenal i Frasil ym 1949. Cafodd hefyd yrfa fer yn hyfforddwr tîm Norwich City rhwng 1949 a 1951.
Bu farw Bryn Jones yn 73 oed ym mis Hydref 1985.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment