Arddangosfa Pethau Cofiadwy yr Heddlu
Disgrifiadau
Rhai eitemau o gasgliad The Ross Mather Police Memorabilia of Wales Collection.
Cafodd y ffotograffau eu tynnu yn ystod arddangosiad ar gyfer digwyddiad ym Mhencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd y digwyddiad ei hun ei drefnu ar gyfer grŵp mawr o heddweision oedd ar ymweliad o'r Unol Daleithiau.
Mae hwn yn gasgliad preifat mawr, y mwyaf o'i fath yn y DG, ac mae wedi ei ddwyn ynghyd dros gyfnod o tua hanner can mlynedd; mae'r ffotograff yn dangos yr eitemau a ddewiswyd ar gyfer arddangosfa'r diwrnod penodol hwnnw.
Ac yntau'n swyddog sydd wedi ymddeol o'i waith gyda Heddlu De Cymru, mae Ross hefyd yn hanesydd heddlu adnabyddus. Mae'n arbenigo yn hanes a phethau cofiadwy yr heddlu yr oedd ef yn aelod ohono yn ogystal â heddluoedd eraill a oedd am ryw gyfnod neu'i gilydd yn bodoli yng Nghymru
*Casgliad *The Ross Mather Police Memorabilia of Wales Collection
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment