Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Sefydlwyd WCIA, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ym 1973 i fod yn 'llais Cymru yn y byd' - gan hyrwyddo achos Rhyngwladoldeb a ddechreuwyd gan sylfaenwyr Teml Heddwch Cymru o 1938. Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn parhau â'r gwaith hwn heddiw - gan agosáu at ei *50fed Pen-blwydd* yn 2023 -  gan arwain prosiectau blaenllaw yng Nghymru ar Ddysgu Byd-eang, Gweithredu Byd-eang, Partneriaethau Byd-eang a Threftadaeth Heddwch, yn ogystal â gweithredu fel gwarcheidwaid a rheolwyr  llogi/ lleoliadau ar gyfer Teml Heddwch ac Iechyd eiconig Cymru. Dyma lyfr rhaglen ar gyfer Cyfarfod Arbennig y Bedwaredd Ddarlith ar Bymtheg yn 1992 sy'n cynnwys y siaradwr gwadd, yr Arglwydd Jenkins o Hillhead, Canghellor Prifysgol Rhydychen.
 
Tudalen 2 a 3. - Hysbysebu nawdd "Evershed Phillips & Buck" i'r digwyddiad a'i gysylltiadau fel cynghorydd anrhydeddus i'r Ganolfan yng Nghymru.
- Rhestr "Rhaglen".
Tudalen 4. - Poster "Y Ganolfan Gymraeg a'i Gweithgareddau".

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw