Wythnos y Glas yng Ngholeg Normal, Bangor, 1958
Disgrifiadau
Llun 1: Wythnos y glas Medi 1958 - pennaeth a thiwtor?
Llun 2: Arweinwyr y myfyrwyr a thiwtor - Rhydderch Jones ar y dde, ac o bosib yn chware rhan "tiwtor".
Llun 3: Wythnos y glas yn y Normal. Rhydderch? Ffwlbri mawr yma!
Llun 4: Criw o ferched yn yn "Humphs" (Roedd "Humphs" yn gaffi myfyrwyr poblogaidd ym Mangor Uchaf).
Llun 5: "Tiwtor" yn cynnal llys. Sbwff go iawn gyda glasfyfyrwyr yn mynd o flaen eu gwell am 'droseddau' yn erbyn y sefydliad.
Llun 6: Mamau a'u merched yn "Humphs" h.y. Myfyrwyr hyn yn cymryd arnynt rol 'mam' i'r newydd-ddyfodiaid - hen arfer.
Llun 7: Miss Griffiths a'r merched - golwg o'r cefn - mae hwn yn edrych fel cyflweliad go iawn.
Llun 8: Tiwtor a dwy ferch o'r blaen.
Llun 9: Len o "Humphs", perchennog y caffi.
Llun 10: Ystafell Gyffredin y Normal - trwbwl ar y ffordd.
Llun 11: Wythnos y Normal. Rwy'n credu bod rhyw fath o 'achos' yn mynd ymlaen yn Ystafell Gyffredin y dynion, a barnu o'r wynebau difrifol!
Llun 12: A dyma'r rheswm am yr wynebau difrifol - mae Rhydderch Jones yn wynebu rhyw fath o brawf!
Llun 13: Wythnos y Normal. Sylwer ar eiriau "Myfanwy" ar y bwrdd du - hanfodol i bawb ei dysgu. Rhai yn ymddangos i fod yn cael darlith ffug yma.
Llun 14: Wythnos y Normal, Bangor, rhai wynebau difrifol yma hefyd!
Llun 15: Wythnos y Normal, Bangor. Wynebau difrifol eto yn yr Ystafell Gyffredin - troeon trwstan?
Llun 16: wythnos y Normal, Bangor - canu o amgylch y piano mewn Ystafell Gyffredin, rwy'n credu (mae'r daliwr cotiau yn gwneud iddo edrych fel "Humphs" chydig bach).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment