Cerdyn post o "Y fedal a'r forwyn" . Clerigwr yn rhoi medal i ferch ifanc, 1903
Disgrifiadau
Dyddiad: 10/11/1903 (dim stamp dyddiad)
Trawsgrifiad: (Ar y blaen): 'Rown i'n meddwl fod hwn yn debyg i ti. Atgoffa bach caredig.
(Ar y cefn): Tachwedd 10 03. Newydd glywed gan L., cerdyn hyfryd gan Modryb G a hithau, diolch yn fawr am dy un di. Dywed wrth Ethel [c] y bydd yn cael cerdyn yr wythnos yma. Rwy'n cael amser braf yn gyrru ar hyd lle. Es i gyngerdd yn Llanelli ddoe. Gelli di anfon y flows a'r llyfr ffawd, dim ots am y gwlân: paid anghofio. Mi wna i 'sgwenu eto pan gaf amser. Mae 'na ddawns heno.
[Iorwerth] Penybedd. Dydd Sul. Wedi gyrru yn ôl gyda Hubert Thomas. [?] yn mynd i roi cadwyn o berlau i mi. Mi hoffwn gael calon fach.
Cyfeiriad: Miss Lucy White, 22 King Street, Caerfyrddin.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment