Eisteddfod Genedlaethol 1946, Aberpennar
Disgrifiadau
Eisteddfod Genedlaethol 1946, Aberpennar
Lluniau 1 - 2: [yr Orsedd yn gweld y Dywysoges Elizabeth yn cael ei derbyn i'r Orsedd, ac mae'r lluniau yn dangos:]
Valerie Pierce merch ieuengaf Dr Gwilym Pierce [(o deulu adnabyddus yn Aberpennar[)] - ar hap y rhoddodd y tad, Dr Hugh Davies-Jones yr enw Pierce i'w feibion, Gwilym (yr hynaf) a Howell ac i'w ferch, a pharhaodd y tair merch arall i arddel yr enw Davies-Jones: fe wnaeth Gwilym briodi merch Bryfdir, Nesta (o Flaenau Ffestiniog: Bryfdir yn ffigwr yn yr Eisteddfod ac yn stiward yn y chwarel) ac roedd eu merch ieuengaf yn cyflwyno'r Aberthged] yn gadael y Maen Llog wedi'r seremoni:
Lluniau 3 - 8: Y Dywysoges Elizabeth yn aros i gael ei chyflwyno i'r Archdderwydd.
Lluniau 9 - 15: Y Dywysoges Elizabeth yn cael ei chyflwyno i'r Archdderwydd.
Llun 16: Y Dywysoges Elizabeth yn cael ei harwain yn ol.
Lluniau 17 - 24: Y Dywysoges Elizabeth yn aros ger y Maen Llog
Lluniau 25 - 33: Dim Disgrifiad
Lluniau 34 - 35: Dim Disgrifiad
Lluniau 36 - 40: D J Davies - towr - a oedd wedi toi yBwthyn Bach yn Windsor, a grewyd ar gyfer y ddwy dywysogos, yn dangos ei sgil yn Sain Ffagan
Lluniau 41 - 44: Mrs Edgell a Mrs Parry - "y cwiltwyr o Flaenau Mynwy" - yn dangos eu sgiliau.
Lluniau 45 - 51: Mae yma gyfeiriad yn y stori at Mrs Tom Hughes Jones Sgweier Hafila "yn prysur gofio un o'r patrymau tlws" (cwiltiau) ac mae'n bosib mai dyma'r fenyw yn 27-31.
Lluniau 52 - 55: Grwp o ferched lleol - mwy na thebyg y staff yn hostel y Bevin Boys yn Hirwaun lle bu i John Roberts Williams, I B Griffiths,a minnau a Bob Owen, Croesor a'i fab aros.
Lluniau 56 - 61: [Y Dywysoges Elizabeth:] cyflwyniad ffurfiol ar y llwyfan.
Lluniau 62 - 63: [Y Dywysoges Elizabeth:] mae'n troi i sgwrsio gyda Crwys.
Lluniau 64 - 66: Y Dywysoges Elizabeth ar y llwyfan
Lluniau 67 - 68: [Y Dywysoges Elizabeth:] yn siarad Llun 69: Cafodd y glowr ei le i ddangos ei fedr yn y pwll yn yr wyl - glofa Powell Dyffryn.
Lluniau 70 - 74: Coroni'r Bardd - Rhydwen Williams
Lluniau 75 - 78: [Y Dywysoges Elizabeth:] yn siarad
Lluniau 79 - 80: Y Dywysoges Elizabeth ar y llwyfan
Llun 81: Y Dywysoges Elizabeth ar y llwyfan - a blodau yn cael eu cyflwyno iddi
Lluniau 82 - 87: Cadeirio'r bardd, Geraint Bowen, a'i ewthyr Myfyr Hefin ar y dde.
Lluniau 88 - 92: Cynan yn cyflwyno �550 o'r dysteb genedlaethol i Caerwyn - a welodd lawer tro ar fyd.
Lluniau 93 - 98: Rhydwen Williams Bardd y Goron - [nodyn llawysgrif:] portread yn E46 (5) 9.
Lluniau 99 - 100: Agor y Celf a Chrefft. Dr Iorweth Peate.
Lluniau 101 - 104: Dr Peate yna agor y Celf a Chrefft yn iard ddefn Glofa'r Dyffryn: mae'r penwisg yn chwifio ei faner er mwyn dangos bod y cynhyrchu wedi cyrraedd ei darged. Cafodd ei gau yn 1893.
Llun 105: Dim disgrifiad
Llun 106: Dr Peate, Glofa Dyffryn
Llun 107: [Nodyn llawysgrif:] Ben Francis - gweler 4/49 151 D fr 18 am ddisgrifiad llawnach.
Lluniau 108 - 111: Sain Helen, Abertawe a'r gem griced yn erbyn India gyda rhai o'r 50,000 a fynychodd.
Lluniau 112 - 113: Emrys Davies, Cricedwr, yn Abertawe ddydd Llun, un o'r tim Morgannwg.
Lluniau 114 - 116: [SY Dywysoges Elizabeth yn cael ei derbyn i'r Orsedd yn y Seremoni gyda lluniau isod:]
Lluniau 117 - 119: The Colwyn Bay deputation which gave the formal invitation to Eisteddfod Bae Colwyn:
Lluniau 120 - 121: Erfyl Fychan gyda un sy'n canu penillion o Garno, Glenys Jones, a enillodd am gan werin dros 16 oed yn yr wyl yn Aberpennar.
Lluni 122: Dim Disgrifiad
Lluniau 123 - 124: Y Dywysoges Elizabeth: mae'n cael ei harwain drwy'r dorf lle bydd yn aros i gael ei chyflwyno i'r Archdderwydd.
Lluniau 125 - 127: Mae'r Orsedd yn cael ei hagor.
Lluniau 128 - 129: Y Corn Hirlas
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment