Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol 1962, Llanelli

Disgrifiadau

Eisteddfod Genedlaethol 1962, Llanelli
Llun 1: Cor Glandulais, a phob llygad ar yr arweinydd, yn canu eu gorau glas ar y llwyfan. Hwy a gafodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth gorawl.
Llun 2: Cor Glandulais yn barod i ganu yn yr ail gystadleuaeth gorawl.
Llun 3: Cor Glandulais yn cystadlu yn yr ail gystadleuaeth gorawl.
Lluniau 4 - 5: Mrs Annie Grey Rees, arweinydd Cor Glandulais, gyda'r cwpan, ar faes y Brifwyl wedi'r fuddugoliaeth fawr.
Llun 6: Hon oedd y 'Steddfod cyntaf i Shan Griffiths o Lanelli, a phawb yn dotio ati.
Llun 7: Y mae Peggy Williams, Trimsaran, yn enillydd llawer gwobr ar lwyfan y brifwyl ac eisteddfodau lleol, ond yn Llanelli bu iddi gystadlu gyntaf ar yr unawd mezzo-soprano a llwyddo i gipio'r prif lawryf.
Llun 8: Ni all parti'r Llan, Trawsfynydd, beidio ac edrych yn llawen ar ol eu buddugoliaeth yn y gystadleuaeth i rai dan bymtheg oed (Cerdd Dant, Parti Deulais dan 15 oed).
Llun 9: Wiliam Owen (Gwilym Gwyrfai) enillydd y Fedal Ryddiaith, ar y llwyfan yn y seremoni ddydd Mercher i'w arwisgo gan Syr T. H. Parry-Williams.
Llun 10: Aelodau o Gor Cymysg Llwchwr gyda'u harweinydd ar y llwyfan yn yr ail gystadleuaeth gorawl.
Llun 11: Testun mwy na sgwrs -- yn wir, cynhadledd hir yw cynhyrchion a beirniadaethau Ymryson y Beirdd i'r ymgeiswyr a'r cefnogwyr. Gyda'r Prifardd T. Llew Jones, beirniad yr Ymryson Nos Fawrth, y mae Gwilym Bowy, Alun Jones, Vernon Jones, John Thomas a John Ebeneser, yn rhoi llinyn mesur ar y cyfan.
Llun 12: Gwen fach swil oddi wrth Delyth Mai Nicholas, Bryn, Llanelli. Delyth, sy'n saith oed, a enillodd y wobr gyntaf ar adrodd dan 12.
Llun 13: Parti Cyd-adrodd Glan Prysor, Trawsfynydd, cyntaf o dan 15 oed, ddydd Mawrth. Gyda dwy yn ychwanegol, enillodd y parti hefyd ar ganu penillion o dan 15 oed. Eu Hyfforddwr oedd Mrs L. E ______ ac enwau'r plant yw: Iola Jones, Margaret Druce, Susan Dobbs, Glenys Davies, Bethan Jones, Edith Barker, Ann Powell, Gwenan Jones.
Llun 14: Un a gymerodd ran yn Noson Lawen Cymry Llundain, nos Lun, oedd Ann Davies, o Bencader, athrawes yn Harrow. Mae Ann yn cymryd rhan hefyd yn y ddrama "Modryb Sharli", a bydd yn dechrau fel athrawes yn Nosbarth Cymraeg Ysgol Hungerford ym mis Medi eleni.
Llun 15: Susan Jones, o Gwrtnewydd, Llanybydder, a ddaeth yn drydydd ar ganu rhwng 12 a 15 oed.
Llun 16: Parti Bro Cynghor, Llangefni, ail yn y gystadleuaeth i bartion cerdd dant, ar y llwyfan.
Llun 17: Cor Crymych ar y llwyfan yn yr ail gystadleuaeth gorawl.
Llun 18: Yr oedd gwenu'n naturiol i Enfys Jenkins, Cwmgwili, wedi derbyn yr anrhydedd a gwobr yr unawd gerdd dant i rai dan ddeunaw oed.
Llun 19: Marcia Thomas (Cyfeilydd Cor Plant Llanberis) ac Eirwen Pugh (arweinydd) yn dangos maint eu balchder yn llwyddiant eu cantorion.
Llun 20: Rhyddid Williams ac aelodau o'i gor -- Cor Ysgol Ardudwy -- wedi'r fuddugoliaeth ar y llwyfan.
Llun 21: Grwp hapus a lliwgar a rhyng-genedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ddydd Mawrth, oedd yr un a welid o gwmpas Miss Carol Jones, Castellnewydd Emlyn, a welir mewn gwisg Gymreig. Yr oedd Carol yn gofalu am grwp a wahanol wledydd sydd wedi dod am ysbaid i Abertawe o dan nawdd y Cyngor Prydeinig. Deuant o Kenya, Uganda, Zanzibar, Hong Kong a British Guiana. Nos Fawrth buont mewn twmpath dawns trwy wahoddiad yr Urdd, a hefyd mewn cyngerdd. Yr oedd y genethod hyn wedi dotio at ganu cerdd dant a glywsant yn Llanelli.
Llun 22: Parti Meibion Menlli a gafodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth i bartion deulais o wyth i ddeuddeg mewn nifer.
Llun 23: Y tri a dderbyniodd geisiadau y tri lle ym Morgannwg a wahoddai'r eisteddfod yn 1964 yw Cynan (cyd-ysgrifennydd), Dr Haydn Williams (cadeirydd), a Mr Ernest Roberts (cyd-ysgrifennydd Llys yr Eisteddfod).
Llun 24: Wrth wahodd yr ol i Abertawe yn 1964 yn Llys yr Eisteddfod ymbiliodd y Parch. Trebor Lloyd Evan yn daer am atgyfnerthiad i ysbryd Cymreig yr ifanc sydd yn cyniwair yn y dref.
Llun 25: Nid yw'r wynebau'n bradychu dim ar gyfrinach meddwl Llys yr Eisteddfod pan geisiai Merthyr, Aberafan ac Abertawe am yr Eisteddfod yn 1964. T. H. Parry-Williams, David Hughes Parry.
Lluniau 26 - 32: Cyfarfod Llys yr Eisteddfod.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
4/9/2020
Gwelediadau:
1591
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment