Eisteddfod Genedlaethol 1964, Abertawe
Disgrifiadau
Bechgyn ifanc yn casglu sbwriel ar faes yr Eisteddfod.
Lluniau 1 - 2: Y dorf ar faes yr Eisteddfod
Llun 3: Rhai o'r eisteddfodwyr yn yr Arddangosfa Gelf a Chrefft.
Lluniau 4 - 5: Plant yn y feithrinfa ar faes yr Eisteddfod.
Lluniau 6 - 8: Plentyn bach yn y feithrinfa ar faes yr Eisteddfod.
Lluniau 9 - 10: Rhai o'r eisteddfodwyr yn gorffwys yn yr haul ar faes yr Eisteddfod.
Llun 11: Eisteddfodwr ifanc ar y maes.
Llun 12: Rhai o'r eisteddfodwyr
Llun 13: Carreg fedd y Cyn-Archdderwydd Trefin.
Llun 14: Gwrthod Carreg Fedd ar y Maes. Ar gwr Maes yr Eisteddfod eleni gwelir Carreg Goffa dalsyth a thrist a'i geiriau prin yn ein hatgoffa am un o anwyliad yr Wyl, Trefin. Mae'r maen sy'n garreg Benant las, galed, wedi ei cherfio'n gain ar ffurf Croes Geltaidd ac fel llawer o feini'r Orsedd fe ddaeth o chwarel enwog, Craig yr Heseg, ger Pontypridd. Lluniwyd y garreg ar gais Mrs Maxwell Frazer, gweddw Trefin, ac fe'i gosodir maes o law ar ei fedd ym mynwent Rehoboth yn ei hen gartref, Tre-fin, Penfro. Treuliodd Mr Reggie Jones, Llanybydder, sy'n perthyn i'r drydedd genhedlaeth o gerflunwyr gweledig, chwe mis yn cerfio'r gareg ac y mae'r rhwydwaith Celtig traddodiadol a wnaeth ar y groes yn rhyfeddol o gain a manwl. Dywedodd Mr Jones wrthym iddo wneud cais i Bwyllgor Abertawe am ganiatad i ddangos y maen ar y maes yn ystod yr wyl ond fe wrthodwyd gan ddweud "nad oedd yn bolisi dangos carreg fedd" yn yr Eisteddfod. Doedd dim amdani wedyn ond mynd ar sgawt i Abertawe i chwilio am rywle o fewn golwg i'r Eisteddfod. Wedi hir chwilio fe gaed caniatad gan y Canon James, Sgeti, a phensaer yr Eglwys yng Nghymru i'w gosod yn un o lawntiau'r ficerdy sy'n ymylu a'r Maes. Bu rhaid i'r cerfluniwr gludo'r garreg, sy'n pwyso tunnell a hanner mewn dwy fan ar ei draul ei hun. Nid am hysbysebu ngwaith ydw i, meddai Mr Jones "ond teimlo fod rhaid i mi'i dangos hi o barch i'r hen Archdderwydd."
Llun 15 - 18: Carreg Fedd Trefin
Llun 19 - 20: Bechgyn ifanc yn casglu sbwriel ar faes yr Eisteddfod.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment