arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Eisteddfod Genedlaethol 1945, Rhosllanerchrugog
Lluniau 1 - 3: Mr Aneurin Talfan Davies, o'r BBC; Mr Ernest Roberts, ysgrifennydd cynorthwyol cyngor yr Eisteddfod, a Mr Wil Williams, Bangor, cynrychiolydd Y Cymro un arall o'r arweinyddion newydd.
Lluniau 4 - 7: Dim disgrifiad
Lluniau 8 - 9: Mr Pat O'Brien un o'r aweinyddion newydd yn yr Wyl, a Gwilym Bethel trefnydd Eisteddfod Lewis, Lerpwl.
Lluniau 10 - 11: Dim disgrifiad
Lluniau 12 - 13: Mr. Sam Jones, cynrychiolydd y BBC ym Mangor, a Mr. W D Williams awdur adnabyddus "Cerddi'r Hogiau".
Lluniau 14 - 16: Dim disgrifiad
Lluniau 17 - 18: Mr Talfan Davies (dde) ac Iorwerth Cyfeiliog Peate
Lluniau 19 - 20: Dim disgrifiad
Llun 21: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1945
Llun 22: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1946
Llun 23: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1947
Llun24: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1948
Llun 25: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1949
Llun 26: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1950
Llun 27: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1951
Llun 28: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1952
Llun 29: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1953
Llun 30: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1955
Llun 31: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1956
Llun 32: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1957
Llun 33: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1958
Llun 34: Defod y Cadeiriau Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog 1959
Lluniau 35 - 46: Y Prifardd yn ei gadair yw Tom Parry Jones, Ty'n Pigyn, Malltraeth, Mon.
Lluniau 47 - 48: Elfed yn arwain yr Orsedd gyda'r Archdderwydd yn gafael yn ei fraich.
Lluniau 49: Pobl dda y Ponciau yn cael mwynhad wrth wylio Lluniau 50: Cynan ar y llwyfan
Lluniau 51 - 52: Gorymdaith yr Orsedd, gyda'r Pafialiwn yn y cefndir ar "Ponkey Banks" fel yr adnabyddir yr ardal
Llun 53: Cipolwg ar y maes - "Ponkey Banks - y pafiliwn a char Geoff Charles
Lluniau 54 - 55: Dynion y pwyllgor lleol - bron y cyfan i gyd yn lowyr neu'n arweinwyr glowyr.
Lluniau 56 - 57: Y Delynores Gwenllian Dwyryd
Lluniau 58 - 59: Teulu Dwyryd - Ioan, Gwenllian a Thelynores Dwyryd - teulu enwog o delynorion a chantorion canu penillion
Llun 60: Dim disgrifiad
Lluniau 61 - 62: Yn nodweddiadol o staff atodol Y Cymro oedd yn cael eu dwyn ynghyd ar gyfer Eisteddfodau - yn eistedd, ac yn sefyll y tu ol i gar Geoff Charles mae (yn y car) Ben Frances (chwith) a Wil Williams (rheolwr cylchrediad Y Cymro): tu cefn i gar Meredydd Evans, ----, I. B. Griffith, ----, Mrs. Frank Pryce Jones a Frank Pryce Jones
Llun 63: Dyma'r gynrychiolaeth o Aberpenar a ddaeth i'r Rhos i wahodd yr Wyl yno y flwyddyn nesa. O'r chwith: Y Parch. Meurig Daniel, Penrhiwceiber; Mr D. O. Roberts (ysgrifennydd) Aberdar; Mr Rees Jones, Hirwaun; Mr Glyndwr Griffiths a Mr W. R. Davies, Aberpennar (cyd-ysgrifennydd). Dyma'r 32 Eisteddfod i Mr Rees Jones, 84 oed: ei wyl gyntaf oedd ym Merthyr yn 1881.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw