Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Eisteddfod Genedlaethol 1967, Y Bala
Lluniau 1 - 3: Y Parch Vivian Jones, 37 oed, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Alltwen, Cwm Tawe a brodor o'r Garnant. Fe oedd yr un a ddaeth agosaf at ennill y Fedal Rhyddiaith. Atalwyd y Fedal.
Lluniau 4 - 5: Dim Disgrifiad
Llun 6: Phillip Morgan, Bebbington, gynt o Dreorci ag enillodd ddwy gystadleuaeth gyda'r trombon yn yr Eisteddfod.
Llun 7: Parti Dawnsio Gwerin
Llun 8: Aloma a Christine yn cystadlu yn y ddeuawd Cerdd Dant.
Llun 9: Pat a Margaret Williams yn cystadlu yn y ddeuawd Cerdd Dant.
Lluniau 10 - 11: Mr a Mrs J. E. Jones, Caerdydd (Plaid Cymru).
Lluniau 12 - 14: Dim Disgrifiad
Llun 15: Aloma a Christine yn cystadlu yn y ddeuawd Cerdd Dant.
Llun 16: Christine Main, ail yn y gystadleuaeth unawd chwythbrennau dan 19 oed.
Llun 17: Yr Athro Idris Foster a Mr R. A. Roberts, Dyserth, enillydd y Fedal Ddrama.
Llun 18: Mr. R. A. Roberts, Dyserth, enillydd y Fedal Ddrama.
Llun 19: Pat a Margaret Williams yn cystadlu ar y ddeuawd Cerdd Dant.
Llun 20: John Esias, Mynydd Cyffig, cydradd gyntaf ar yr unawd chwythbrennau dan 19 oed.
Llun 21: Leslie Wyn Jones, Blaenau Ffestiniog, cydradd gyntaf ar yr unwad chwythbrennau dan 19 oed.
Lluniau 22 - 24: Dim Disgrifiad
Llun 25: Stephen Knott, o Fanceinion, myfyriwr yn Abertawe, enillydd y ddawns unigol.
Llun 26: Dim Disgrifiad
Llun 27: Parti Dawnsio Gwerin
Lluniau 28 - 29: Dim Disgrifiad
Llun 30: Margaret Morris, Carway, Cydweli, enillydd yr unawd merched rhwng 15 a 19 oed.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw