Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol 1941, Bae Colwyn (Yr "Eisteddfod Radio")

Disgrifiadau

Eisteddfod Genedlaethol 1941, Bae Colwyn (Yr "Eisteddfod Radio")
Lluniau 1 - 4: "Trem ar y llwyfan yn ystod seremoni agor yr Eisteddfod fore Mercher a Thelynores Tawe gyda'i thelyn"
Llun 5: "Gwyr amlwg yn y Brifwyl - o'r chwith Caergwyn, Ffowc Williams Llandudno; Cynan, Cofiadur yr Orsedd: Syr Henry Morris-Jones A.S.; Elfed; Crwys, Mr D. R. Hughes; Maer Bae Colwyn, Daniel Jones: D. O. Evans, A.S., cadeirydd cyngor yr Eisteddfod, a'r Henadur W. Emrys Williams, Wrecsam, dirprwy gadeirydd Llys yr Eisteddfod"
Llun 6: Dim Disgrifiad
Lluniau 7 - 8: "Caerwyn, Syr Henry Morris-Jones A.S., Elfed a Chrwys yn trafod y byd a'r betws"
Lluniau 9 - 10: Dim Disgrifiad
Lluniau 11 - 12: "Gwneuthpwyd defnydd helaeth o ddarlledu drwy gyfrwng y radio ar weithrediadau'r Eisteddfod eleni. Drwy adnoddau neilltuol aelodau staff rhanbath Cymru o'r BBC fe gafwyd crynodeb ddiddorol o weithrediadau'r dydd --- a chlywed seremonau agor yr Eisteddfod, y Coroni ddydd Mercher a'r cadeirio ddydd Iau --- Yr oedd yr trefniadau yn nwylo Mr Sam Jones (15, 16) a Mr A. Watkin Jones." (17, 18). Sam Jones, cynrychiolydd y BBC yng Ngogledd Cymru.
Lluniau 13 - 14: "Gwneuthpwyd defnydd helaeth o ddarlledu drwy gyfrwng y radio ar weithrediadau'r Eisteddfod eleni. Drwy adnoddau neilltuol aelodau staff rhanbath Cymru o'r BBC fe gafwyd crynodeb ddiddorol o weithrediadau'r dydd --- a chlywed seremonau agor yr Eisteddfod, y Coroni ddydd Mercher a'r cadeirio ddydd Iau --- Yr oedd yr trefniadau yn nwylo Mr Sam Jones (15, 16) a Mr A. Watkin Jones." (17, 18). A. Watkin Jones, cyfarwyddwr gweithredol y rhaglenni adran Cymraeg y BBC.
Lluniau 15 - 17: Yr Archdderwydd Crwys, J. M. Edwards, Llanrhystud, bardd y Goron, ac Elfed, ddirprwy Archdderwydd, a Chynan.
Lluniau 18 - 20: "Triawd Dwyryd: Telynores Dwyryd, Ioan Dwyryd a Gwenllian Dwyryd a gafodd hwyl fawr yn y noson lawen nos Fercher"

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
4/9/2020
Gwelediadau:
606
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment