Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol 1967, Y Bala

Disgrifiadau

20 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1967, Y Bala.

Llun 1: Eluned Phillips bardd y goron gyda'r Archdderwydd Gwyndaf.
Llun 2: Haf Bowen o'r Bala - un o'r gwerthwyr rhaglenni gorau a phrysuraf.
Llun 3: Cor Penillion y Bala a'r Cylch ar y llwyfan yn ystod seremoni agoriadol y Brifwyl. Yr arweinydd yw Mr. W. H. Pugh, Y Parc.
Llun 4: Rhai o hogiau ysgolion Cynradd y Bala yn paratoi eu hunain ar gyfer rhan yn y seremoni agoriadol.
Llun 5: Band Canol-y-Rhondda, a enillodd wobr Dosbarth A yn Brifwyl, gyda'u mascot, Jacko (T. J.) Davies, ac Is-Gadeirydd y Band, a chwpan Tiriogaethwyr Sir Fflint. Teithiodd y Cwpan i fyny gyda hwy, gan eu bod wedi'u ennill y flwyddyn diwethaf ac yn awr mae'n barod am y daith adre'n ol gyda Gwobr Rhys Thomas James, Pantyfedwen o �500.
Llun 6: Delyth Hopkins, cyntaf am ganu dan bymtheg oed.
Llun 7: Dwy o ferched prysur ym mhabell Theatr Cymru; Mari Gwenllian Gwent o Abertawe a Catrin Dwyryd o Ddolgellau.
Llun 8: Cododd y dorf fawr fel ungwr yn y pafiliwn yn y Bala for Llun i ddangos eu parch a'u hedmygedd o Syr Thomas Parry-Williams. Yn y seremoni agoriadol cyflwynid iddo Gyfrol Deyrnged, o waith nifer o lenorion amlwg i ddiolch iddo am ei gyfraniad I'r genedl. 'Diolchwn i chwi am eich cyfraniad fel bardd, llenor, beirniad ac ysgolhaig. Yn wir, am fod yr hyn ydych chi,' meddai'r Athro Idris Foster wrth gyflwyno'r gyfrol.
Llun 9: Mr a Mrs T. Scourfield gyda'r cerdyn Nadolig arbennig a werthir ym mhabell y Barri ar y maes. Cyfuniad symbolaidd yw'r llun ar y cerdyn o'r haul a chylch yr Orsedd.
Llun 10: Plant Ysgol Gymraeg y Barri, Gethin Scourfield, David Owens, Sian Owens, Geraint Parry a Rhian Morgan yn rhoi help i werthu cardiau.
Llun 11: Y delynores Ann Griffiths gyda'r delyn deires newydd sbon a wnaed iddi gan John Thomas o Waelod y Garth.
Llun 12: Labordy Iaith ar Faes y Brifwyl. Peter Jones, o Ben-y-bont ar Ogwr, a fu'n dysgu Cymraeg am oddeu tu blwyddyn, gyda Dennis Roberts, Mrs Margaret Roberts a Mr Alun Jones.
Llun 13: Parti Plant Llwchwr ar faes yr Eisteddfod.
Llun 14: Y Gwir Anrhydeddus Cledwyn Hughes gyda Mr Tom Jones, Llanuwchllyn, a Ernest Roberts, Bangor.
Llun 15: Rhiannydd Hughes, cyntaf am adrodd darn o'r Ysgrythur dan 18 oed gyda Jennifer Evans, ail, cerdd dant dan 21 oed. Daw'r ddwy o Bontarddulais
Llun 16: Parti Graig Llangefni, a enillodd Gwpan Coffa y Parch T. Dewi Jones, priod yn diweddar Dewi Jones a hyfforddodd y parti, hi sy'n dal y cwpan.
Llun 17: Rhai o aelodau Band Mynydd y Garreg, Cydweli, yn bwrw golwg ar rifyn diweddaraf 'Lol' ar faes yr Eisteddfod.
Llun 18: Margaret Morris, Carway, Cydweli, Enid Davies, Carway a Janice Davies, Mynydd y Garreg, y goreuon ar yr unawd merched rhwng 15-19 oed. Margaret a enillodd, Janice yn ail ac Enid yn drydydd.
Llun 19: Nia Roberts a Mary Davies, Llanuwchllyn cyntaf ar y ddeuawd Cerdd Dant rhwng 15 a 21 oed.
Llun 20: Stanley T. Roberts, Caer, cyntaf ar yr unawd tenor rhwng 19 a 25 oed.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2020
Gwelediadau:
757
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment