Eisteddfod Genedlaethol 1969, Y Fflint
Disgrifiadau
17 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1969, Y Fflint.
O. M. Roberts, Lewis Valentine a J. E. Jones
Llun 1 - 3: Cynan a Mr W Armon Ellis, cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod i'r Sir
Llun 4 - 5: Maer y Fflint, yr Henadur John T Watkin, yn estyn croeso i'r Eisteddfod; ef, yn ol Mr Armon Ellis, oedd yr un a gafodd y syniad o wahodd yr Eisteddfod i'r Fflint. Eirene White ar y chwith
Llun 6: Pobl bwysig y llys: o'r dde i 'r chwith, Gwilym R Tilsley, Stephen J Williams, Syr Thomas Parry- Williams, Ernest Roberts, (ddim a nodir) Gwyndaf
Llun 7 - 9: Urddo Mr Mathews Williams fel Cymrawd o'r Eisteddfodd gan Lywydd y Llys a Chymrawd arall, Syr Thomas Parry Williams
Llun 10 - 11: Yr Henadur John T. Watkin, cadeirydd y pwyllgor celf a chreft, yn cyflwyno'r fedal aur am bensaerniaeth i Mr H. P. Preece, sy'n cynrycholi Ormrod and Partners (Lerpwl) a gynlluniodd ffatri Pilkington- Elmer,Llanelwy
Llun 12: Meim Plant Theatr Fach y Rhyl a agorodd y Babell Drama, ddydd Llun; sef "Y Foneddiges, Y Rhosyn a Dafydd" a ddyfeisiwd a chynhyrchwyd gan Angela Thomas
Llun 13: Gwynfor Evans a Emrys, Llangwrn (chwith)
Llun 14: Yn barod i roi berniadaeth yn y Babell Ddrama ar ddydd Llun mae Hugh Pierce Jones (beirniad) Leslie Harries (Llywydd y Babell Drama, dydd Llun) ac Ednyfed Williams (Ysgrifennydd Pwyllgor Drama Eisteddfod y Fflint)
Llun 15: Tair o gast meim plant Theatr fach y Rhyl- Susan Cooper (11), Iona Eryri Jones (18) ("Y Foneddiges") a Heather Mary Williams ("Y Rhosyn")
Llun 16: Syr Ben Bowen Thomas yn cyflwyno gwobr I David Parry Greenfield, am waith haearn
Llun 17: O. M. Roberts, Lewis Valentine a J. E. Jones
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment