Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

27 negatif: du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangefni, 1957.
Y Cymry ar Wasgar yn ymgynull ar faes yr Eisteddfod cyn y Seremoni.
Llun 1: Y Dyfnallt newydd dan ei goron. Dyfnallt Morgan, bardd y goron, ar y llwyfan yn ystod seremoni'r cadeirio.
Lluniau 2 - 3: Dyfnallt Morgan, y bardd coronog, ar y llwyfan yn ystod seremoni'r cadeirio.
Llun 4: Dyfnallt Morgan, y bardd coronog, yn gadael y pafiliwn wedi'r seremoni yng nghwmni'r Archdderwydd William Morris.
Llun 5: Cor Clybiau Ieuenctid Pwyllgor Addysg Mon, o Gaergybi a Bryngwran.
Llun 6: Enillydd y Fedal aur yn adran y Gelfyddyd Gain, oedd Mr George Chapman, 47 oed o Aberaeron, Sir Aberteifi. Gwnaeth lun mewn olew o ffyrdd a thai ym Merthyr Tydfil. Arlunydd yw Mr Chapman wrth ei waith, a chaiff ei destunau bob amser o drefi a phentrefi a glofeydd De Cymru. Nid oedd yn bresennol i gael ei gyflwyno yn y Pafiliwn yn y bore, ond yn ddiweddarach cyflwynwyd a Fedal iddo yn y Pafiliwn Crefft a Chelf, gan Dr G Wyn Griffith, cadeirydd Pwyllgor yr Adran honno.
Llun 7: Mr George Chapman, enillydd y Fedal Aur yn adran y Gelfyddyd Gain yn cael ei longyfarch.
Llun 8: Gwilym R Tilsley yn ei ail gadair yn Llangefni.
Llun 9: Gwilym R Tilsley, bardd y gadair, yn cael ei dywys i'r llwyfan.
Lluniau 10 - 16: Gwilym R Tilsley, bardd y gadair, ar y llwyfan yn ystod seremoni'r cadeirio.
Llun 17: Gwilym R Tilsley, bardd y gadair, yn ei gadair ar lwyfan y Brifwyl, yn ystod seremoni'r cadeirio.
Llun 18: Aelodau o Lys yr Eisteddfod ar lwyfan y Brifwyl.
Llun 19: A dyma'r bardd-dramodydd coronog cyntaf - Dyfnallt Morgan, a llaw dadol yr Archdderwydd William Morris ar ei ysgwydd.
Llun 20: Ffermwr o dy Pigyn, Malltraeth, Sir Fon, yw Mr Tom Parry Jones (51 oed), ac y mae'n olynydd teilwng i W J Griffith, Henllys Fawr, ffermwr arall o Fon. Enillodd y fedal ryddiaith eleni am gasgliad 'syfrdanol' o straeon byrion, ac awgrymodd y beirniad, Dr Jac L Williams, nas ystyrid straeon o'r natur yma am 'garidyms' pentref gwledig Cymreig yn rispectabl o gwbl ond yr oedd graen y crefftwr yn codi eu chwaeth uwchlaw pob beirniadaeth. Enillodd Tom Parry Jones y goron yn Eisteddfod y Rhos yn 1945.
Lluniau 21 - 23: Tom Parry Jones, enillydd y Fedal Ryddiaith, a rhai o gyn-enillwyr y Fedal ar y llwyfan yn ystod y seremoni.
Llun 24: Tom Parry Jones, enillydd y Fedal Ryddiaith, yn cael ei dywys i'r llwyfan.
Llun 25: Tom Parry Jones, enillydd y Fedal Ryddiaith, yn cael ei longyfarch gan Syr Thomas Parry-Williams.
Llun 26: Unwaith eto yng Nghymru annwyl --- Ar eu ffordd i lwyfan y Brifwyl y mae'r Cymry ar Wasgar i dderbyn croeso'n ol. Daeth cynrychiolwyr o 25 o wledydd i Langefni ac roedd y seremoni gynnes, gartrefol o'u cyflwyno i'r dorf fawr yn un o uchafbwyntiau'r Wyl. Yn eu harwain y mae'r Dr J R Jones, o Hong Kong - tref a gafodd gryn amlygrwydd yn y Brifwyl hon.
Llun 27: Y Cymry ar Wasgar yn ymgynull ar faes yr Eisteddfod cyn y Seremoni.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw