Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr, 1956
Disgrifiadau
28 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol Aberdar, 1956.
Parti o Sir Fon.
Llun 1: "Sut y mae Archdderwydd yn ymddangos pan mae yn ei ddillad ei hun? Dyma fe, Y Parch Wiliam Morris, Caernarfon, Archdderwydd nesaf Cymru i olynu Dyfnallt, yn prysuro trwy faes yr Eisteddfod ganol yr wythnos."
Llun 2: Arweinydd y Cymry ar Wasgar, Mr Levi D Jones, Johannesburg, gyda Erfyl Fychan.
Lluniau 3 - 4: Y Cymry ar Wasgar yn gorymdeithio tua'r pafiliwn
Lluniau 5 - 6: "Diwrnod mawr coresawu'r Cymry ar Wasgar oedd dydd Mercher. Yr oedd yn amhosibl cael llun o'r holl osgordd fawr - ond dyma gyfran o'r dychweledigion yn teithio tua'r croeso mawr yn y pafiliwn."
Lluniau 7 - 8: Y Cymry ar Wasgar yn gorymdeithio tua'r pafiliwn
Lluniau 9 - 10: Anne Edwards, o Langefni, Gwilym Lewis, o Gaergybi, a Glenys Williams, o Fiwmaris, a gystadlai yng nghystadleuaeth y triawdau llinynol. Roeddynt yn fuddugol er nad oeddynt wedi cyfarfod am ddeg diwrnod.
Llun 11: "Wynebau llawen y plant o ysgol fodern Aman ac Ynyslwyd, Aberdar, yn y cyngerdd godiog nos Fawrth." Dawns y Morwyr gan Ysgolion Eilradd Aman ac Ynyslwyd.
Llun 12: Parti dawnsio o Ysgol Eglwysig Cwmbach, a gymerai ran yng nghyngerdd y plant ar nos Fawrth yr Eisteddfod
Llun 13: Plant o ysgol Y Comin, Aberdar, a gymerai ran yng nghyngerdd y plant.
Llun 14: Cor glannau Llyfni, Penygroes.
Llun 15: "Dawnswyr bach yng Nghyngerdd y plant nos Fawrth (un o'r cyngherddau plant gorau erioed) a ddaeth o Bengeulan, Aberpennar."
Llun 16: Pedair o'r Parti Meim o Ysgol Ramadeg Aberdâr a berfformiau'r Fari Llwyd yng Nghyngerdd y Plant.
Llun 17: "Margaret Morgan Jones, Gwalchmai, cyntaf ar ganu penillion ac adrodd o dan 15, a Morris Eirianfa, Trawsfynydd, yr ail ar y ddwy gystadleuaeth."
Llun 18: Parti dawns flodau o Ysgol Abercynon a Brynolwg.
Llun 19: Tudwal Humphrey, Abersoch, Valerie Jones a Llinos yn dal taflenni Cronfa Leila Megane.
Llun 20: Anthony Thomas Jones, y tenor buddugol dan 25 oed.
Lluniau 21 - 22: Y ddirprwyaeth a ddaeth o Langefni i Aberdâr i wahodd pawb i'r Eisteddfod y flwyddyn ganlynol.
Llun 23: Parti Erddgan Penrhyndeudraeth. (Madrigal)
Llun 24: "Barddoni harn' yr oedd Mr David Davies, Drefach, Llanelli, yn y Brifwyl yn Aberdar. Gyda'i golion llidiart enillodd wobr yn adran celf yr Eisteddfod Genedlaethol am t nawfed tro. Dechreuodd drin haearn gyda'i dad yn yr efail yng Nghilcennin pan oedd yn 15 oed. Mae'n 71 yn awr - ond mae'n dal i weithio yn ei efail bob dydd."
Llun 25: Mrs J E Hughes, Mrs S J Jones a Mr W Lloyd.
Llun 26: "Jim, Aled a John Jones, tri brawd o Gastellnewydd Emlyn. Daeth Jim yn gyntaf ar adrodd dan 25 ac Aled yn drydydd, a daeth John yn drydydd ar adrodd dan 18 oed."
Llun 27: "Dyma enillwyr y rhubanau glas - Anita Williams, contralto 18 oed, o Drimsaron, a enillodd wobr goffa Osborne Roberts yn y gystadleuaeth arbennig i fuddugwyr pob llais dan 25 oed, a Mr Eric Mortimore o Groeswallt, a drechodd fuddugwyr yr unawdau agored i gipio gwobr goffa David Ellis --- ."
Llun 28: Parti o Sir Fon.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment