Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol 1962, Llanelli

Disgrifiadau

63 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1962, Llanelli.
Llun 1: Gwilym Maerdy ac Owen T Jones o Ddinorwig chwythwyr y cyrn gwlad.
Llun 2: Cor Niwbwrch a'r Cylch, Sir Fon, ar y llwyfan yn yr ail gystadleuaeth gorawl. Dyfarnwyd y cor yn ail i Glandulais.
Llun 3: Mr Gerallt Jones, prif swyddog gwasanaeth t^an siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Fe yw'r cyntaf yng Nghymru i drefnu arddangosfa deithiol i dynnu sylw'r cyhoedd at beryglon damweiniau trwy d^an yn y cartrefi. Addasodd hen injan diffodd t^an i fod yn gerbyd cludo yr arddangosfa ac yr oedd i'w gweld ar faes yr Eisteddfod yn Llanelli.
Llun 4: Thomas Rowlands, Trelew, Patagonia.
Llun 5: Ellis Evans, yr Wyddgrug. Ganed ef ym Mhatagonia ond 'ymfudodd' i Gymru pan yn 21 oed.
Llun 6: Kenneth Evans, Patagonia.
Llun 7: Rhai o'r Cymry ar Wasgar ar Faes yr Eisteddfod.
Llun 8: Y buddugwyr ym mhrif gystadleuaeth y ddeuawd cerdd dant oedd Mrs Morfudd Lewis, Gwyddelwern, Corwen a Llundain a Mrs Blodwen Wynne, Pentrecelyn, Rhuthun.
Llun 9: Daeth amryw o gantorion newydd i'r amlwg yn Llanelli eleni. Un ohonynt oedd Eifion Owen, sy'n enedigol o Beaumaris, Sir Fon, a enillodd y wobr gyntaf ar yr unawd bariton i rai rhwng deunaw a phump ar hugain oed. Dyma'r tro cyntaf i Eifion gystadlu mewn unrhyw Eisteddfod. Bu'n astudio Saesneg ac addysg gorfforol yng Ngholeg Loughborough ac ar hyn o bryd mae'n athro yn Ruislip, Middlesex.
Llun 10: Camp anghyffredin Aled Jones, Parc Nest, Castell Newydd Emlyn, oedd cipio'r prif lawryf yn y dair cystadleuaeth adrodd dan 25 oed; adrodd gyda'r delyn, a'r prif adroddiad.
Llun 11: Enillwyd prif anrhydeddau'r ddrama yn Llanelli gan gwmni Cymry Llundain, a dyfarnwyd gwobr y ddrama hir am y perfformiad o "Modryb Siarli", a gyfieithwyd gan Rhydderch Jones, Aberllefenni. Aelodau'r cwmni yw: Arthur Williams, Llangefni; Ann Davies, Pencader; Howard Goodfellow, y Tymbl; Bryn Richards, Aberystwyth; Ryan Davies, Llanfyllin; Rhydderch Jones, Aberllefenni; Gwyndaf Evans, Y Glôg, Sir Benfro; Marie Vaughan-Jones, Llangybi, Ceredigion, a Margaret Lewis, Llangadfan.
Llun 12 - 15: Cwmni Drama Cymry Llundain yn perfformio "Modryb Siarli".
Llun 16: Adroddwr aml ei wobr ar lwyfan eisteddfod yw Gary Nicholas, Bryn, Llanelli, ac enillodd ei seithfed wobr genedlaethol yn y gystadleuaeth adrodd i rai o 15 i 18 oed yng ngwyl Llanelli.
Llun 17: Dwy a enillodd wobrau am ganu ac adrodd yw Delyth Evans, Pencader, yn drydydd yng nghystadleuaeth canu penillion ac yn drydedd am adrodd, a dyfarnwyd yr ail wobr i Bethan Evans, Llangybi, Ceredigion, yng nghystadleuaeth can werin.
Llun 18: Amanda Hughes a Sheila Davies o Lanelli, yn gwenu'n braf er waethaf cawod o law. Hawdd y gallent, a hugain gloyw ysgafn yn gysgod iddynt.
Llun 19: Enillodd Nest Williams, o Fethesda, yr ail wobr yng nghystadleuaeth yr adrodd i rai o 12 i 15 oed.
Llun 20: Tawe Griffith yn cyflwyno'r cwpan yn ei enw ei hun i Mr Harding Jenkins, arweinydd Cor Soar, Llwynhendy, ar ol y fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth i gorau o un capel neu eglwys.
Llun 21: Mr Oliver Loyer, Paris, Ffrainc.
Llun 22: Gwilym Maerdy ac Owen T Jones, chwythwyr y cyrn gwlad.
Llun 23 - 24: Cynan ar Faes yr Eisteddfod yn y glaw.
Llun 25: Seremoni'r Cadeirio, gyda Caradog Prichard, y bardd cadeiriol a'r Archdderwydd Trefin.
Llun 26 - 28: Seremoni'r Cadeirio.
Llun 29: Mr R E Griffith, yr Urdd, Llywydd y dydd ar ddydd Mawrth, a'i wraig, ar y llwyfan.
Llun 30: Cyflwyno Cwpan Harry Botham i Noel John, arweinydd Bois y Blacbord.
Llun 31: James Griffiths AS, Llywydd y Dydd ar ddydd Gwener yr Eisteddfod.
Llun 32: David Lloyd a Carol Williams ar Faes yr Eisteddfod.
Llun 33 - 34: Cystadleuwyr ar lwyfan yr Eisteddfod.
Llun 35 - 37: Cystadleuydd ar y ddawns werin unigol.
Llun 38 - 39: Mr R W Jones (Erfyl Fychan), Llywydd y Dydd ar ddydd Mercher yr Eisteddfod.
Llun 40 - 42: Pobl ar y llwyfan yn ystod y seremoni agoriadol.
Llun 43: Cynan a Trefin ar y llwyfan yn Sinema'r Regal.
Llun 44: Aelodau o'r Orsedd.
Llun 45: Dim disgrifiad
Llun 46: Beirniad y Goron, Waldo Williams, y Parch. David Jones, Blaenplwyf ac Euros Bowen.
Llun 47 - 51: Dim disgrifiad
Llun 52: Stondin 'Y Cymro' ar faes yr Eisteddfod.
Llun 53: Rhai o staff 'Y Cymro' yn eu stondin ar faes yr Eisteddfod. Dde: Dyfed Evans.
Llun 54: Stondin y Bwrdd Go� Cenedlaethol ar faes yr Eisteddfod.
Llun 55: Pabell 'Teledu Cymru' ar faes yr Eisteddfod.
Llun 56: Eisteddfodwyr yn cysgodi rhag y glaw ar faes yr Eisteddfod.
Llun 57: Y dorf ar faes yr Eisteddfod.
Llun 58 - 59: Arddangosfa Clwb Criced Morgannwg ar faes yr Eisteddfod.
Llun 60 - 61: Cast yr Anterliwd ar y Maes.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2020
Gwelediadau:
1317
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment