Eisteddfod Genedlaethol 1960, Caerdydd
Disgrifiadau
30 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1960, Caerdydd.
Lluniau 1 - 4: Dim disgrifiad.
Llun 5: Merched o ysgol yr Wyddgrug a fu'n cystadl ar y dawnsio gwerin ym mhrifwyl Caerdydd.
Llun 6: Y cyntaf i gamu o'r cerbyd brenhinol ar faes y Brifwyl nawn Sadwrn oedd y Tywysog Charles -- "clamp o hogyn ysgol hoffus".
Llun 7: Syr Thomas Parry-Williams a Mr T W Thomas, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Caerdydd, yn croesawu'r Frenhines i'r Brifwyl fore Sadwrn.
Lluniau 8 - 9: Dr Thomas Parry yn cychwyn ar daith trwy faes y Brifwyl -- taith annisgwyl trwy'r bobl heb na phlisman na pheth o gwmpas fore Gwener.
Lluniau 10 - 11: Y car brenhinol yn cyrraedd y maes Fore Sadwrn.
Llun 12: Y Frenhines a Dug Caeredin yn mynd fewn i'r pafiliwn.
Llun 13: Dug Caeredin yn gadael y pafiliwn.
Llun 14: Dug Caeredin ac aelodau o'r Orsedd yn mynd fewn i'r pafiliwn.
Llun 15: Y Tywysog Charles a'r Dywysoges Ann ar fin mynd mewn i'r pafiliwn.
Llun 16: Y Dywysoges Ann a'r Frenhines yn esgyn y grisiau i'r pafiliwn.
Llun 17: Dug Caeredin, y Tywysog Charles, a'r Dywysoges Ann yn mynd i mewn i arddangosfa. Philip Meirionnydd, Dug Caeredin, yn ol yn y Brifwyl efo'r Tywysog Charles a'r Dywysoges Ann pnawn Sadwrn.
Llun 18: Mrs Irene Elcock, 54 oed o Ynys Wyth, a'i merch Joy, 20 oed. Dysgodd y ddwy Gymraeg gyda'r cyfre i ddysgu Cymraeg ar y radio. Clywed rhaglenni Cymraeg ar y radio a ysgogodd Mrs Elcock i ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf a chafodd ddigon o gylfe i ymafer ei Chymraeg yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Llun 19: Vivian Watt, Caerdydd (trydydd), Owen Roberts, Llanfaelog (cyntaf), Sian Dwyryd (ail), gyda Eleanor Dwyryd, y cyfeilydd wedi'r gystadleuaeth ddawnsio efo'r 'coes brws'.
Llun 20: Telynores Eryri (Miss Edith Evans, Beddgelert) a ganai'r cywydd croeso i'r Frenhines yn y Brifwyl ddydd Gwener.
Llun 21: Parti'r Nant, sir Ddinbych, cyntaf yn y gystadleuaeth Parti Deulais Cerdd Dant yng Nghaerdydd.
Llun 22: 'Bois y Blacbord' -- ysgolfeistri o Sir Gaerfyrddin, ail yn y gystadleuaeth i Bartion Deulais yn Adran Cerdd Dant y Brifwyl.
Llun 23: Parti Cerdd Dant Llanuwchllyn yng Nghaerdydd.
Llun 24: Morien Phillips, Rhos (chwith), ail ar y prif adroddiad yn y Brifwyl ac Eryl Roberts, Gaerwen, a ddaeth yn drydydd.
Llun 25: Un o arfau cyfrin Aberporth -- yntau Dic Jones, a'i bibell braidd yn gos at y cwpan Cerdd Dant a enillodd y Cor Ieuenctid.
Llun 26: Brian Owen, Groeslon, ger Caernarfon, buddugol ar y brif adroddiad i feibion dros 25 oed ym Mhrifwyl Caerdydd.
Llun 27: Cor Ieuenctid Aberporth a enillodd Gwpan Cerdd Dant Caerdydd.
Llun 28: Y beirniaid yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa David Ellis yng Nghaerdydd, ddydd Sadwrn, oedd y tri chanwr enwog, Trevor Anthony, Rowland Jones a Redver Llewellyn. Ar y chwith y mae Cyril Anthony ac ar y dde D T Davies (dau feirniad cerdd arall yn yr Eisteddfod).
Llun 29: Telynores Llwchwr (Mirss Margaret Rees), 16 oed -- yr ieuengaf erioed i fod yn delynores swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol, cafodd ganmoliaeth am ei gwaith.
Llun 30: I Huw Davies, Pwllheli, cofrestrydd priodasau, genedigaethau a marwolaethau yn Llyn, daeth dwy wobr yr adran llenyddiaeth yn y Brifwyl yng Nghaerdydd - am drosi stori fer yn ddrama un act ac am raglen deyrnged i fardd neu lenor. Teyrnged i Cynan oedd ganddo.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
Sylwadau (1)
Submitted by MaryPark on Sad, 17/12/2022 - 01:31
Diolch o galon am bostio'r casgliad yma - mae fy Mam a Mamgu yn llun rhif 18. Daeth Mam yn ol i Gaerdydd ar wyliau ar ol i Mamgu farw yn 1966, cwrddodd a fy nhad yn yr Amgueddfa Genedlaethol ble'r oedd e'n gweithio fel warden, ac fel canlyniad tyfais i lan yng Nghaerdydd yn siaradwr Cymraeg fy hun!
You must be logged in to leave a comment