Eisteddfod Genedlaethol 1966, Aberafan
Disgrifiadau
21 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1966, Aberafan.
Llun 1: Roedd o leiaf un eitem yn yr arddangosfa Gelf a Chrefft yn Aberafan na chofnodwyd yn y rhestr o'r cynnyrch ac nid oedd cystadleuaeth ar ei cyfer ychwaith. Ond ni chlywyd un gair o brotest oddi wrth y pwyllgor oherwydd i'r crefftwr beiddgar arddangos ei waith heb wahoddiad na chaniatad. Yn wir aeth y 'crefftwr' ymhellach - fe drefnodd i'w deulu aros yn yr adeilad dros wythnos yr Eisteddfod! Yn y darlun fe welir y crefftwr a'i deulu - gwennol a chywion -a gartrefodd ym mrig to yr arddangosfa. Tybed a fydd y rhain ymysg y Cymry ar Wasgar ar y llwyfan heddiw.
Llun 2: Tair chwaer a brawd ac aelodau o Glwb y Cymro a dreuliodd amser difyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberafan (o'r chwith i'r dde) yw: Ruth Bromage (13 oed): Joan (10 oed); Gary (17 oed) a Jill (8 oed) o 51, Church Road, Blaendulais, Castell Nedd. Disgybl yn ysgol Gymraeg Rhydfelen yw Ruth, Jill a Joan yn Ysgol Gymraeg Blaendulais, ac y mae Gary sy'n aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Castell Nedd.
Llun 3: Hugh Bevan, D. Tecwyn Lloyd a T. J. Morgan, beirniaid y gystadleuaeth am y Fedal Rhyddiaeth, yn ei gwrthod.
Lluniau 4 - 7: Cantorion Ivor Davies, Ilfoed, a'u harweinydd Ivor Davies yn dathlu ar ôl ennill cwpan 'Y Cymro' yn y brif gystadleuaeth corawl.
Llun 8: Aelod o gor Adrodd Ysgol Gyfun y Dyffryn a oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth Cor Adrodd Dysgwyr 16-25 oed.
Llun 9: Mrs Gaynor Williams arweinydd cor buddugol Llangatwg yn derbyn y cwpan oddi wrth y Parch Huw Jones.
Llun 10: Cor buddugol Llangatwg gyda'u harweinydd Mrs Gaynor Williams.
Llun 11: Dim Disgrifiad
Lluniau 12 - 15: Mrs Mary Evans Dawe, o Florida, arweinydd y Cymry ar Wasgar, yn llongyfarch Mrs Gaynor Williams, arweinydd Cor buddugol Llangatwg.
Llun 16: Ann Price, Treherbert, Sian Evans, Caerdydd O Ysgol Uwchradd Gymraeg Rhydfelen yn canu alawon gwerin yn y pasiant nos Lun.
Llun 17: Plant Ysgolion Pontrhyd-y-fen, Castell Nedd, Aberdar a Phontypridd - Normaniaid y pasiant.
Lluniau 18 - 20: Aelodau o fand Excelsior, ail yn y brif gystadleuaeth i fandiau, gyda Susan Northcote o Sandfields, Port Talbot yn ceisio chwythu corn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment