Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy, 1958
Disgrifiadau
18 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy, 1958.
Egwyl yn y Brifwyl am damaid o fwyd a phaned o de. Nid oedd yn ddigon cynnes i dynnu cotiau yng Nglynebwy ddechrau'r wythnos, ond nid oedd ychwaith yn rhy oer i Mr B Jones (sydd ar y chwith), Mrs R T Lloyd, Huw Jones (sy'n ddwyflwydd oed, ac yn ei ail Eisteddfod), Mrs Nancie Jones a Miss Morfudd Lloyd, yr ail o Droedyrhiw, fynd o dan do am ginio.
Llun 1: 'Mor agos ac eto' -- y Parch. D Emlyn Lewis ("Yr Asgell Fraith") yn y Babell Len brynhawn Mawrth yn gwrando ar ferniadaethau'r goron. Dr Peate yn condemnio ei bryddest fel "rhyddiaith o'r degfed dosbarth"; Euros Bowen yn clodfori ei "sylwadaeth fanwl" a W J Gruffudd yn teimlio na chafodd y bardd "reolaeth ar ei awen". Brodor o'r Garnant, Rhydaman, yw'r Parch D Emlyn Lewis a ficer Capel Bangor. Gydag ef yma y mae ei briod, Madam Decima Morgan Lewis, y gantores adnabyddus.
Llun 2: Y Parch. D Emlyn Lewis.
Llun 3: Yng Nglynebwy yr oedd cystadleuaeth newydd sbon yn adran y plant yn y Brifwyl - cystadleuaeth adrodd i rai dan ddeuddeg oed sy'n dysgu Cymraeg. A dyma'r bedair a ymgeisiodd ar lwyfan y pafiliwn gorlanw fore Mawrth. Adroddent "Coeden Afalau", T Rowland Hughes, darn pur anodd, hyd yn oed i Gymry Cymraeg, meddai'r beirniaid W H Roberts a Jennie Eirian Davies. Ond gwnaeth y genethod yn dda, a rhoes y berniaid wobr i bob un ohonynt - pum swllt ar hugain i Carol Amanda Jones. Ystalyfera, pymtheg swllt i Patricia O'Neale, Pontarddulais, a chwech a thair yr un i Helen Wilkinson a Winonna Owen o Frynmawr. Gyda'r genethod mae'r arweinydd, Mr Gwilym Aneurin Jones o Benbre, a enillodd ar adrodd yn y Genedlaethol bum gwaith.
Llun 4: Teulu'r Mans' ar faes y Brifwyl yn llongyfarch bardd y Goron, Mr Llewellyn Jones, o Lanbadarn Fawr. O'r chwith i'r dde gwelir: Emlyn Jones (Cynhyrchydd), T H Evans (Ifan Jenkins), Llewellyn Jones, Dilys Davies (Annie Mary), D Jacob Davies (awdur), Gwilym Morris (awdur), Cynddylan Williams (y Parch. Goronwy Bowen) ac Eluned Phillips (awdur).
Llun 5: Pamela Davies, o Wrecsam, a ddysgodd Cymraeg mewn ysgol nos ac a gafodd y wobr am ganu can werin dros 21.
Llun 6: Eleni yr oedd yna Fonesig o'r newydd ar faes y Brifwyl - y Fonesig Amy Parry-Williams, gyda llond ei dwylo o waith hefyd yn beirniadu'r alawon gwerin.
Llun 7: Yr aelodau mwyaf selog o ddigon oedd sylw Mr B Davies, arweinydd seindorf Ieuencttid Llwydcoed, ger Aberdar, am y bedair geneth - Gloria Bramwell (14 oed), Junita Wiggs (15), Janice Wiggs (13) a Christine Edmunds (14). Hwn oedd y tro cyntaf i'r seindorf ymddangos ar lwyfan y Genedlaethol.
Llun 8: Yr oedd mwy o gorau mawr Nglyn Ebwy nag a welwyd yn yr un Brifwyl er y rhyfel. Yr oedd yno bump ohonynt. Ac aeth cwpan "Y Cymro" i Gor Rhydaman, a gafodd naw o farciau yn fwy na'r cor agosaf atynt. Dyma'r marciau: Rhydaman, 180; Llanelli, 171; Sciwen, 170; Broughton, 170; Merthyr Tydfil, 161. Dyma rai o aelodau cor buddugol Rhydaman gyda'r arweinydd, Mr Hywel G Evans.
Llun 9: Roedd yn olau. Ni welai Shirley Richards ddim o wei thgarwch y Brifwyl yng Nglyn Ebwy. Bu'n ddall er pan oedd yn wyth mis oed. Ond go brin serch hynny, y cafodd neb yng Nglynebwy fwy o fwynhad na hi. Eisteddfod yn y drydedd rhes o'r ffrynt yn y pafiliwn drwy gydol yr wyl. A diolch i ysgol y deillion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr oedd popeth ar y llwyfan yn olau clir iddi. Yn yr ysgol honno, dan hyfforddiant Miss Thomas, o Sciwen, a Miss Llewelyn o Llanelli, y dysgodd Shirley yr iaith Cymraeg. Bu yno am ddeng mlynedd - a sieryd yr iaith yn rhwydd erbyn hyn. Nid yw'r teulu yn Nhredegar - ei thad a'i mam a'i dwy chwaer - yn medru siarad gair o Gymraeg. Ond meddai Shirley: "Maent yn falch iawn fy mod i'n medru". Yn sgwrsio gyda hi ar y maes y mae Miss Sali Jenkins, athrawes yn ysgol Cwm Padarn, Llanbadarn Fawr, a oedd yn eistedd wrth hymyl yn yr Eisteddfod.
Llun 10: Mr Saunders Lewis yn annerch o lwyfan y Brifwyl fel llywydd, Ddydd Iau.
Llun 11: Gwnaeth cantorion Aberporth wrhydri yn y Brifwyl gyda'u Cor ieuenctid cymysg, cor merched a chor canu penillion. Dyma'r cor merched.
Llun 12: Buddug Davies, o Aberporth, a ddaeth yn gyntaf ar unawd telyn (agored) yng Nglyn Ebwy.
Llun 13: Cafodd parti cyd-adrodd Ysgol Ramadeg Dinbych y gyntaf yn y Brifwyl.
Llun 14: Dotwen Williams, o Benrhyndeudraeth, a ddaeth yn gyntaf efo John Llewelyn Thomas ar ganu penillion rhwng 18 a 25 yng Nglynebwy. Cyfeiliwyd idi gan y delynores ifanc dalentog o Faesteg - Telynores y Llwyni. (Ann Griffiths)
Llun 15: 'Iechyd i'r Tywysog'. Yr oedd mynd da ar y dawnsio gwerin yng Nglynebwy. Bu'r twmpathau yn gyrchfan poblogaidd i rai cannoedd o bobl ifainc fin nos. A dyma'r wraig yn anad neb, a fu'n gyfrifol am ail-ddarganfod yr hen ddawnsiau Cymreig - Mrs Lois Blake, Saesnes o Lerpwl, a ddaeth i fyw i Langwm. Gwnaeth hi a'i chynorthwywyr yng Nghymdeithas Ddawns Werin Cymru waith ymchwil mawr yn y maes. A throsglwyddodd yr Urdd y dawnsiau oddi ar bapur i'r llawr dawnsio. Yn y twmpathau yng Nglynebwy fe ddawnsid dawns newydd sbon a luniwyd gan Mrs Blake - "Iechyd i'r Tywysog". Y myd dawnsio gwerin y mae'n beth arferol, meddai Mrs Blake, i greu ddawns newydd ar achlysur arbenig. A'r achlysur y tro hwn, wrth gwrs, oedd fod y Tywysog Charles yn dod yn Dywysog Cymru. Perfformir y ddawns newydd i'r hen alaw "Y Gelynnen".
Llun 16: Dwy ferch (canol) a roes wasanaeth mawr mewn amrywiol ffyrdd i gerddoriaeth yng Nghymru - Telynores Eryri a Mrs Dilys Wynne Williams, Caernarfon. A Dyma'r ddwy yng ngwisg wen yr orsedd. Dyrchafwyd Telynores Eryri a Thelynores Dywyrd o adran y wisg werdd i'r wisg wen eleni - a daeth Mrs Wynne Williams yn aelod o'r Orsedd am y tro cyntaf yng Nglyn Ebwy, ac ar ei hunion i'r Urdd Anrhydedd.
Llun 17: Dathlodd Cwmni Recordiau Qualiton agor eu ffatri recordiau newydd ym Mhontardawe. Cyn y datblygiad hyn cynhyrchwyd yr holl recordiau gan gwmni mawr yn Llundain.
Llun 18: Egwyl yn y Brifwyl am damaid o fwyd a phaned o de. Nid oedd yn ddigon cynnes i dynnu cotiau yng Nglynebwy ddechrau'r wythos, ond nid oedd ychwaith yn rhy oer i Mr B Jones (sydd ar y chwith), Mrs R T Lloyd, Huw Jones (sy'n ddwyflwydd oed, ac yn ei ail Eisteddfod), Mrs Nancie Jones a Miss Morfudd Lloyd, yr ail o Droedyrhiw, fynd o dan do am ginio.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment